Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â chynllunio neu gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau ar-lein dros Zoom.

Sut i gael y gorau o Zoom ar gyfer eich cyfarfodydd a'ch digwyddiadau ar-lein?

Dydd Mawrth 25 Mai: 10.30am – 12.30pm

Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn hyfforddi ar-lein newydd sbon yma lle byddwn yn dangos i chi sut i gael y gorau o Zoom wrth drefnu a chynnal cyfarfod neu ddigwyddiad.

Yn y sesiwn hon byddwn yn esbonio sut i gynnal digwyddiad Zoom o sefydlu'r cyfarfod i ddechrau, i unrhyw gamau dilynol rydych chi am eu gwneud ar ôl y digwyddiad. Byddwn yn archwilio'r gwahaniaethau rhwng cyfarfod a Gweminar a rhai o'r swyddogaethau y gallwch eu defnyddio yn ystod y cyfarfod.

Darganfyddwch awgrymiadau a thriciau gorau Zoom a fydd yn eich helpu i gynnal y cyfarfod neu'r digwyddiad ar-lein gorau posibl!

Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â chynllunio neu gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau ar-lein dros Zoom - Staff, gwirfoddolwyr cymunedol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu am Zoom. (bydd yn ymwneud yn benodol â chynnal cyfarfod ar-lein yn hytrach na bod yn fynychwr).

Cost: £59 aelodau;  £89 pawb arall

I gofrestru am y digwyddiad hwn, cliciwch ar y ddolen Zoom yma https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwpc-uhrzMjGNLOhSlMX5eZRnsY9Rpq6t0-

Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl

  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.

Hawl TPAS Cymru i Ganslo

Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sut i gael y gorau o Zoom ar gyfer eich cyfarfodydd a'ch digwyddiadau ar-lein?

Dyddiad

Dydd Mawrth 25 Mai 2021, 10:30 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

24 Mai 2021

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Elizabeth Taylor

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad

Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X