Sut all y sector tai symud ymgysylltiad tenantiaid ymlaen nawr bod cyfyngiadau Covid yn cael eu codi?

Symud ymgysylltiad tenantiaid yn ei flaen - barn o bob rhan o Brydain Fawr

Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2021: 11am – 12.30pm

Sut all y sector tai symud ymgysylltiad tenantiaid ymlaen nawr bod cyfyngiadau Covid yn cael eu codi?

Bydd y weminar gyffrous hon yn rhoi cyfle i glywed sut mae gwahanol wledydd Prydain Fawr yn dod yn eu blaen.

Bydd ein panel arbenigol o: Lesley Baird, TPAS yr Alban, Jenny Osbourne, TPAS Lloegr a David Wilton TPAS Cymru yn rhannu eu meddyliau o ran:

  • Y disgwyliadau a'r ysgogwyr ar gyfer ymgysylltu;
  • Tueddiadau cyfredol ac arfer da;
  • Cyfleoedd a syniadau ar gyfer symud ymlaen.

Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed sut mae gwahanol rannau o Brydain Fawr yn dod yn eu blaenau gyda Chyfranogiad Tenantiaid wedi'r cyfnod clo.

Cost:

Tenantiaid: Am ddim

Staff (aelodau): £29.00

Pawb arall: £59.00

Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_QMAVU1dEShq1Zes359Vhng

Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl

  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.

Hawl TPAS Cymru i Ganslo

Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Symud ymgysylltiad tenantiaid yn ei flaen - barn o bob rhan o Brydain Fawr

Dyddiad

Dydd Llun 12 Gorffennaf 2021, 11:00 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Llun 08 Gorffennaf 2021

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad

Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X