Dydd Iau, 22 Ebrill: 11:00 – 12:30
1) Mae hwn yn ddigwyddiad dwy ran yn edrych ar Gartrefi'r Dyfodol (yr un yma) a Chymunedau'r Dyfodol (pm). Gall mynychwyr ddod i un yn unig ond byddem wrth ein bodd eich gweld chi yn y ddau.
2) Cost ar y cyd ar gyfer y ddau ddigwyddiad: £29 i denantiaid, £49 i staff a £89 i bawb arall
3) I fynychu'r ddau bydd angen i chi gwblhau'r cofrestriad Zoom ar gyfer pob un
Yn y sesiwn yma
-
Cartrefi Conwy: Bydd Adrian Johnson yn rhoi cipolwg i chi ar eu hadeilad modiwlaidd chwyldroadol newydd, lle maent yn cynhyrchu cartrefi ynni isel gyda chostau rhedeg isel.
-
HACER Developments: Bydd Carwyn Davies yn eich ysbrydoli trwy gynllun arloesol yng nghanol dinas Abertawe sy'n cynrychioli dull newydd radical o fyw a gweithio yn yr amgylchedd trefol.
-
Tai Cymru a’r Gorllewin: Bydd Grant Prosser a thenant o Brackla yn trafod sut mae tenantiaid yn dod ymlaen yn byw mewn cartrefi carbon isel newydd yn Brackla (Pen-y-bont ar Ogwr). Mae gan y cartrefi arloesol hyn dechnoleg a systemau gwresogi newydd felly bydd yn dda clywed am brofiad y tenant. (Er gwybodaeth: bu i TPAS Cymru recordio fideo ar adeg yr adeiladu) https://www.youtube.com/watch?v=uvMlApY45-c
Cofresrwch trwy ddefnyddio'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZErdOispjMpGNLmck88fm03OKvRDb5TCPg5
Noddir ein Hwythnos Datgarboneiddio gan
Polisi Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Wythnos Datgarboneiddio: Cartrefi carbon isel dyfodolaidd - beth all tenantiaid ei ddisgwyl?
Dyddiad
Dydd Iau
22
Ebrill
2021, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 21 Ebrill 2021
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad