Y sesiwn hon yw'r gyntaf mewn cyfres sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu digidol yn y sector tai.

Ymgysylltu Digidol Gwell – Sesiwn 1: Sut Mae Cyfryngau Digidol a Thraddodiadol yn Newid a Pam Mae Angen i Ni Addasu

Dydd Mercher 25 Chwefror 1:30pm – 2:30pm

Ymgysylltu Digidol Gwell ar gyfer 2026: Sgiliau, Cynnwys a Hyder ar gyfer Tai

Nid yw ymgysylltu digidol bellach yn ychwanegiad i'r sector tai, mae'n ganolog i sut mae tenantiaid a chymunedau'n cael mynediad at wybodaeth, yn ffurfio barn, ac yn cymryd rhan yn ystyrlon.

Mae ein harferion o ran defnyddio cynnwys cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed aros yn gyfredol â newyddion yn newid yn gyflym, mae disgwyliadau'n codi, ac mae offer newydd (gan gynnwys AI) yn newid sut mae cynnwys yn cael ei greu a'i rannu

Y sesiwn hon yw'r gyntaf mewn cyfres sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu digidol yn y sector tai.

Dyma'r sesiwn gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar helpu'r sector tai i ddeall, gwerthuso a meithrin hyder gydag ymgysylltu digidol yn 2026.

Manylion y sesiwn:

Mae defnydd o’r cyfryngau yng Nghymru yn newid yn gyflym ac nid bob amser yn y ffyrdd rydyn ni’n eu tybio. Mae’r sesiwn hon yn gosod y sylfaen ar gyfer y gyfres gyfan ond mae hefyd yn gweithio fel digwyddiad annibynnol i’r rhai sydd â diddordeb mewn deall mwy am dirwedd y cyfryngau a sut mae llwyfannau digidol yn cael eu defnyddio.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn:

  • Cael darlun clir o sut mae tenantiaid yn cael mynediad at wybodaeth/newyddion, a BLE 
  • Dysgu sut mae tirwedd y cyfryngau wedi newid a sut allwch CHI gyfleu negeseuon i'ch cynulleidfa
  • Cael cipolwg ar newidiadau demograffig ac ymddygiadol mewn defnydd cyfryngau ar-lein
  • Deall pam mae angen i ddulliau ymgysylltu cyfredol esblygu
  • Astudiaethau Achos: gweld beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, a beth sy'n digwydd yn y sector 

Siaradwyr

Richard Nosworthy, Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd - Mae Richard yn hyfforddwr cyfryngau dwyieithog, podcastiwr ac ymgynghorydd cyfathrebu wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn arbenigo mewn cefnogi sefydliadau di-elw. Mae ganddo dros ddau ddegawd o brofiad yn y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Gohebydd Iechyd ITV Cymru a Phennaeth Cyfathrebu yn WWF Cymru. I gael gwybod mwy am Richard a'i arbenigedd, ewch i'w Broffil LinkedIn 

  • Gan ddefnyddio mewnwelediadau diweddaraf Ofcom, bydd Richard yn archwilio sut mae tirwedd cyfryngau Cymru yn newid a ble mae tenantiaid yn cael eu newyddion a'u barn.

TPAS Cymru (David Wilton a Caitlin Brown)

  • Byddant yn rhannu tueddiadau sy'n dod i'r amlwg a'r hyn y gall y sector ei ddysgu o arfer da (a rhai nad ydynt cystal) mewn mannau eraill. 
Mae'r sesiwn yn addas ar gyfer:

Gweithwyr proffesiynol cyfathrebu, Swyddogion Cyfranogiad Tenantiaid, Swyddogion Ymgysylltu Cymunedol, Tenantiaid.

Cost    
  • Swyddogion (Aelodau): £39 + TAW
  • Tenantiaid: £29 + TAW
  • Pawb Aralls: £89 + TAW

*** Gostyngiad ar gael os byddwch yn mynychu sawl sesiwn o fewn y gyfres***

  • Archebwch sesiynau 1 a 3 (ar-lein) am 10% oddi ar y gost gyffredinol
  • Archebwch pob un o'r tri sesiwn am 20% oddi ar y gost gyffredinol

Bydd gostyngiadau ar yr anfoneb

Fel arfer, rydym yn anfonebu ar ôl y digwyddiad, ond os oes angen, gallwn anfon anfonebau cyn 31 Mawrth, rhowch wybod i ni adeg archebu.

Pethau i'w wybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom yw hon
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
  • NI fydd sleidiau'n cael eu rhannu ar ôl y sesiwn

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.


Telerau ac Amodau 
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai ar ôl 24 Chwefror, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu'r sesiwn, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Ymgysylltu Digidol Gwell – Sesiwn 1: Sut Mae Cyfryngau Digidol a Thraddodiadol yn Newid a Pam Mae Angen i Ni Addasu

Dyddiad

Dydd Mercher 25 Chwefror 2026, 13:30 - 14:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X