Byddwch yn rhan o'n Rhwydwaith Staff ar-lein nesaf ar gyfer pawb sy'n ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid

Rhwydwaith Staff - i bawb sy'n ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid

Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025 – 11am-12:30pm

Sesiwn ar-lein rhad ac am ddim yw hon yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru

Byddwch yn rhan o'n Rhwydwaith Staff ar-lein nesaf ar gyfer pawb sy'n ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid.

Mae'r sesiwn yn gyfle gwych i chi rwydweithio, rhannu syniadau, gofyn cwestiynau a rhannu dulliau ac arferion gyda chynrychiolwyr eraill sy'n bresennol.

Yn ystod y Rhwydwaith nesaf hwn byddwn yn canolbwyntio ar rai themâu allweddol:

  • Cynnwys Tenantiaid mewn Recriwtio Staff – Pa ddulliau sy'n gweithio? Beth yw'r opsiynau? Beth sydd angen i chi feddwl amdano?
  • Clywch gan Grŵp Cynefin a darganfod sut maen nhw wedi llwyddo i gynnwys eu Tenantiaid mewn recriwtio staff ar draws y sefydliad.
  • 'Agony Aunties'  - cyfle i ofyn am gyngor neu syniadau ar ymgysylltu â thenantiaid.
  • Y Newyddion Tai Diweddaraf – darganfod beth sy'n digwydd a beth allai ei olygu i'ch arfer ymgysylltu â thenantiaid.

Mae'r Rhwydwaith yn gyfle i siarad yn agored gyda chyfoedion ac archwilio beth sy'n gweithio, beth sydd ar goll a beth fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i waith ymgysylltu â thenantiaid.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn? – hwn ar gyfer staff sy'n ymwneud ag Ymgysylltu â Thenantiaid - o ystyried cynnwys y sesiwn hon mae'n agored i'ch cydweithwyr fel y rhai o dimau AD.

Archebwch eich lle drwy'r dolen Zoom yma

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Rhwydwaith Staff - i bawb sy'n ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid

Dyddiad

Dydd Mawrth 02 Rhagfyr 2025, 11:00 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 02 Rhagfyr 2025

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

david lloyd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X