Cyngor Sir Ddinbych
Helen White
Helen yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych ac mae'n dod â chyfoeth o wybodaeth, angerdd a phrofiad i Fwrdd TPAS Cymru. Ar ôl dechrau ei gyrfa dai yn gweithio ym maes cyfranogiad tenantiaid, mae'n parhau i fod yn angerddol am sicrhau bod anghenion tenantiaid a chymunedau yn ganolog i'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu. Yn ei hamser hamdden, mae Helen yn mwynhau cadw'n heini a threulio amser gyda'i theulu.