Croeso i TPAS Cymru
Mae 
TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) wedi cefnogi tenantiaid a landlordiaid tai cymdeithasol ledled Cymru i ddatblygu cyfranogiad effeithiol yn y maes tai ers dros 30 mlynedd.   White Line Rydym yn gweithio ar yr agenda ehangach o ran ymgysylltu â dinasyddion, hybu arferion da mewn gwasanaethau cyhoeddus, drwy hyfforddiant, cefnogaeth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Mae gennym wybodaeth helaeth am dai cymdeithasol gyda ffocws ar faterion o safbwynt tenantiaid, sydd er budd y tenantiaid.

Ein rôl hanfodol ledled Cymru yw bod yn ganolbwynt adnoddau gwybodaeth ac arbenigedd o ran cynghori a hyrwyddo arfer da ym maes cyfranogiad tenantiaid, er budd tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol fel ei gilydd.  
Mae gennym berthynas gryf ac agored gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd Rheoleiddio Cymru. Beth am ddysgu mwy am sut y gall tenantiaid ddylanwadu ar y sector tai yng Nghymru a pherthynas TPAS.  Mae ein gwaith yn eang ac yn cynnwys; cyflwyno hyfforddiant, cynnal adolygiadau o gyfranogiad tenantiaid, sefydlu a chefnogi craffu, cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, rheoli prosiectau, trefnu digwyddiadau, lledaenu gwybodaeth ac arferion da, a llawer mwy.
TPAS Membership

Yr Agenda

Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Yr Agenda’ sy’n rhoi trosolwg o bwnc i grwpiau tenantiaid ac yn awgrymu cwestiynau y byddech efallai am eu gofyn wrth ymgysylltu â’ch landlord (cliciwch yma am ragor o wybodaeth)

Mae TPAS Cymru, trwy roi llais i denantiaid wrth reoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru, yn casglu barn a phryderon tenantiaid ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. 

 

 

Beth sydd ar y gweill

12 May 2026

Ymgysylltu Digidol Gwell – Sesiwn 3: Ydi Deallusrwydd Artiffisial ac Offer Digidol Eraill yn Ffrind neu'n Elyn?

Training – online

Mae'r sesiwn hon yn edrych yn gytbwys ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn cyfathrebu tai, lle gall helpu, a lle mae angen bod yn ofalus.

Read More Button

13 May 2026

Rhwydwaith Aelodau Staff Tai Awdurdod Lleol 2026

Network

Peidiwch â cholli'ch cyfle i gysylltu, dysgu, rhannu a chlywed gan eich cyd-aelodau Tai Awdurdod Lleol TPAS Cymru yn y Rhwydwaith ar-lein hwn.

Read More Button