Are you a tenant renting in Wales?

We are excited to launch our last Tenant Pulse survey of 2023 – our third All-Wales Annual Tenant Survey. This survey will explore tenants’ views on their homes, communities and experiences that really matter to them.

 

3ydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan 

Ydych hi'n denant yn rhentu yng Nghymru?

Rydym yn gyffrous i lansio ein harolwg Pwls Tenantiaid diwethaf yn 2023 – ein trydydd Arolwg Tenantiaid Blynyddol Cymru Gyfan. Bydd yr arolwg hwn yn archwilio barn tenantiaid ar eu cartrefi, eu cymunedau a’u profiadau sydd o wir bwys iddynt.

Gwyddom fod canfyddiadau ac argymhellion ein harolygon Pwls Tenantiaid yn cynnig mewnwelediad a gwybodaeth werthfawr i’r heriau a phrofiadau tenantiaid ar hyn o bryd, yn ystod cyfnod sy'n heriol yn ariannol i bawb.

Rydym angen eich llais ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod eich lleisiau’n cael eu cynrychioli yn ein hadroddiad ar leisiau tenantiaid yng Nghymru, a’n hargymhellion ar gyfer y dyfodol dros y flwyddyn nesaf i randdeiliaid, partneriaid a swyddogion y Llywodraeth.

Os ydych chi’n denant yng Nghymru, gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cael ei chlywed trwy lenwi’r arolwg yma.

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan i denantiaid roi eu barn ar y pethau sydd o bwys iddynt. Cafodd ei greu gan TPAS Cymru 5 mlynedd yn ôl a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cael ei redeg yn rheolaidd ar wahanol faterion cyfoes i helpu i lunio a thrawsnewid polisi tai yng Nghymru. Mae Pwls Tenantiaid yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â rhentwyr preifat a’r rheini mewn tai â chymorth.

 

Diddordeb? Os ydych yn denant yng Nghymru, beth am glicio yma ymunwch â'n Pwls Tenantiaid a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed mewn arolygon yn y dyfodol??

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolwg. Mae eich llais yn bwysig iawn ac rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr.

 

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddwyd gan