Cawsom ein llethu gyda'r holl gyflwyniadau gwych a gawsom ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2022 ac roeddem eisiau rhannu rhywfaint o’r esiamplau ardderchog gyda chi i gyd

Enillwyr Gwobrau Arfer Da 2022: rhagor o wybodaeth am eu gwaith a’u cyflawniadau

Cawsom ein llethu gyda'r holl gyflwyniadau gwych a gawsom ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2022 ac roeddem eisiau rhannu rhywfaint o’r esiamplau ardderchog gyda chi i gyd.

Eleni, roeddwm wrth ein bodd i fod yn ôl wyneb yn wyneb â chi i gyd i ddathlu a rhannu rhywfaint o'r arfer da hwn ac i gefnogi ac ysbrydoli eraill. Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn Noson Wobrwyo a Chinio Galan yng Ngwesty’r Jury’s Inn, Caerdydd ar 6 Gorffennaf 2022.

Y categorïau ar gyfer 2022 oedd:

1. Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau
2. Cynnwys Tenantiaid Wrth Lunio Gwasanaethau
3. Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr
4. Cefnogi Lles Tenantiaid a Phreswylwyr
5. Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr
6. Rhagoriaeth mewn Cynhwysiant Digidol
7. Cynnwys Tenantiaid mewn Mentrau Amgylcheddol
8. Tenant y Flwyddyn
 

Rhoddwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd gan y beirniaid.

Rydym wedi llunio'r adroddiad canlynol y gellir ei lawrlwytho i rannu dysgu ac ysbrydoli eraill:

Adroddiad Arfer Da 

Mae'r adroddiad yn rhoi mwy o wybodaeth am bob un o’r 9 enillydd a 3 uchaf y beirniad ym mhob categori. 

Diolch i enwebwyr y gwobrau am ddarparu'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad hwn. Rydyn ni wedi ychwanegu eu manylion cyswllt ar gyfer pob un o'r ceisiadau buddugol os ydych chi eisiau darganfod mwy am y prosiectau.

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r digwyddiad yn rhannol ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n noddwyr Tai Cymru a’r Gorllewin. Diolch! 😊

Yn olaf, hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a enwebwyd ym mhob categori. Roedd 2021/22 yn parhau i fod yn flwyddyn heriol i bob un ohonom, fodd bynnag, eich straeon a phobl fel chi sy'n rhoi rheswm inni ddal ati i wenu, hyd yn oed yn ystod y dyddiau anodd. 

Diolch unwaith eto