Beth sydd mewn enw?.......llawer yn ôl Tenantiaid
Yn ddiweddar mae TPAS Cymru wedi bod yn trafod y pwnc hwn pan ddaw i denantiaid…..
Ers gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), rydym wedi clywed gan denantiaid am bryder allweddol yn ymwneud â’r Ddeddf – nid hyd eu contractau newydd na’r derminoleg gymhleth sydd ynddynt!, ond y term ‘Deiliad Contract’ ac yn benodol, sut mae rhai landlordiaid yn defnyddio’r term mewn gosodiadau a gohebiaeth bob dydd. Mae’r hyn a fu unwaith yn ‘Gystadlaethau Garddio Tenantiaid’ neu’n ‘Gylchlythyrau Preswylwyr’, mewn rhai achosion, bellach yn ‘Gystadlaethau Garddio Deiliaid Contract’ a ‘Chylchlythyron Deiliaid Contract’!
Mae tenantiaid yn bryderus ynghylch pam mae rhai landlordiaid yn defnyddio’r term mewn gohebiaeth a gosodiadau anffurfiol o’r fath, gan ei fod yn derm nad yw llawer yn ymwneud ag ef.
Yn ystod y cyfnod yn arwain at y Ddeddf Rhentu Cartrefi, mae Tenantiaid wedi dweud wrthym mai eu term dewisol yw ‘Tenant’ gan ei fod yn ddealladwy ac yn hysbys i bawb; tenantiaid ac eraill.
I'r rhai sydd eisiau mwy o fanylion, fe wnaethon ni brofi 4 term gyda thenantiaid, ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn:
-
Y sgôr uchaf oedd ‘cadw gyda Tenant’. Y rheswm a roddwyd yn aml oedd bod y term tenant yn adnabyddus ac yn cael ei dderbyn ac roedd ‘hawliau tenant’ yn rhywbeth yr oedd pobl wedi brwydro drosto.
-
Roedd 2il bell i gael ei gyfeirio ato fel ‘preswylydd’. Teimlai'r rhai a oedd yn ffafrio'r opsiwn hwnnw ei fod yn fwy niwtral a bod ganddo lai o stigma.
-
3ydd oedd ‘cwsmer’ ac ni chafodd hyn adborth da gan fod “...cwsmeriaid yn cael dewis ar ddarparwyr cynnyrch, dydyn ni ddim….”.
-
Yn dechnegol yn y 4ydd safle...ond heb unrhyw bleidleisiau roedd 'deiliad contract' - llawer o sylwadau negyddol amdano - “does neb yn gwybod beth mae'n ei olygu!”, “Mae gen i gontract gyda fy narparwr ffôn symudol, ond dydyn nhw ddim yn fy ngalw i'n ddeiliad contract"”
Mewn cyd-destunau bob dydd, mae tenantiaid yn gweld bod y term Deiliad Contract yn eithrio ac yn ddryslyd, nid yn unig iddyn nhw ond hefyd i eraill a allai eu cefnogi, fel aelodau o’r teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gweithwyr cymorth ac ati.
Nid pwrpas Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) oedd drysu tenantiaid gyda chyflwyniad y term ‘Deiliad Contract’ ac nid oes rhaid iddo wneud hynny. Yn y rhan fwyaf o leoliadau, mae’r term ‘Tenant’ neu hyd yn oed ‘Preswylydd’ yn gwbl dderbyniol.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig – fe wnaethom wirio gyda Simon White yn Llywodraeth Cymru. Yr oedd ganddo y gorchwyl anferth a hirfaith o arwain ar y Ddeddf. Dyma beth ddywedodd Simon….
“Mae dau fath o gytundeb lle gall rhywun fyw mewn eiddo, sef naill ai trwydded neu denantiaeth. Nid yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn diddymu trwyddedau a thenantiaethau, ond mae adran 7 o’r Ddeddf yn golygu pan fo tenant neu drwyddedai yn meddiannu eiddo fel cartref yn gyfnewid am rent, yna bydd y drwydded neu’r denantiaeth honno hefyd yn gontract feddiannaeth (yn amodol ar rai eithriadau penodol). Felly, mae rhywun sydd â chontract meddiannaeth yn dal i fod naill ai’n denant neu’n drwyddedai, felly nid yw defnyddio’r termau ‘tenant’ neu ‘drwyddedai’ ar gyfer cyfathrebiadau cyffredinol yn anghywir.”
Felly….
-
Beth yw eich barn am y pwnc hwn?
-
A oes gennych chi ffafriaeth ar y term tenant, preswylydd neu ddeiliad contract?
-
A holwyd neu ymgynghorwyd â'ch tenantiaid?
Gadewch i mi wybod [email protected]