Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r data diweddaraf ar foddhad tenantiaid yng Nghymru.

Beth yw barn tenantiaid cymdeithasau tai a chyngor am eu cartrefi?

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r data diweddaraf ar foddhad tenantiaid yng Nghymru.

Mae cyhoeddiad arolwg heddiw yn cynnwys y 12 cwestiwn safonol y mae’n rhaid i bob landlord yng Nghymru fod wedi’u gofyn i’w tenantiaid, o fewn y 2 flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn seiliedig ar fethodoleg safonol ond mae'n cynnwys ystod o ddulliau casglu data.

Mae’r data hwn yn cael ei ddarparu gan landlordiaid ac yna’n cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn galluogi rhanddeiliaid, tenantiaid, a’r cyhoedd i drafod y wybodaeth hon gyda landlordiaid a’i chymharu ag adroddiadau blaenorol. Wrth edrych ar y cyhoeddiad hwn, mae’n bwysig cofio gwahanol ffactorau megis nifer y cartrefi sydd gan landlord ac oedran a lleoliad y cartrefi y mae’n eu rheoli.

I weld adroddiad diweddaraf arolwg boddhad tenantiaid yn Saesneg, cliciwch yma

I weld adroddiad diweddaraf arolwg boddhad tentantiaid yn y Gymraeg, cliciwch yma

Os hoffech drafod yr adroddiad yn fwy manwl gyda ni, cysylltwch drwy e-bostio [email protected]