Dyma beth oedd barn Tenantiaid am Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Dyma beth oedd barn Tenantiaid am Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio eu hadroddiad ar farn Tenantiaid am Safonau Ansawdd Tai Cymru

Gofynnodd Llywodraeth Cymru inni rannu arolwg gyda chi ym mis Medi 2020, fel y gallent helpu i gael ymwybyddiaeth tenantiaid o SATC ac i helpu i lywio ail gam y safonau.

Nodau'r ymchwil hon hefyd oedd sicrhau dealltwriaeth ehangach o dderbynioldeb gwaith i ddatgarboneiddio cartrefi a mesur pwysigrwydd meini prawf cyfredol SATC.

Ymatebodd 1,016 o denantiaid i'r arolwg, gyda 945 ohonynt yn denantiaid tai cymdeithasol.

Dywedodd 44% o'r ymatebwyr nad oeddent erioed wedi clywed am SATC a phwysleisiodd mwyafrif y byddent yn hapus i waith bach a sylweddol gael ei wneud yn eu cartrefi i gynyddu effeithlonrwydd tanwydd.

Dewch o hyd i’r grynodeb yma.

Dewch o hyd i’r adroddiad llawn yma