Clywch y diweddaraf gan Lywodraeth y DU - Gwasanaeth Cynghori Atal Colledion Tai
Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi lansio cymorth cyfreithiol newydd, rhad ac am ddim, drwy’r Gwasanaeth Cynghori ar Atal Colledion Tai
Bydd pobl sy’n wynebu cael eu troi allan neu eu hadfeddiannu yng Nghymru a Lloegr yn gallu cael cyngor cyfreithiol arbenigol yn rhad ac am ddim, gan eu helpu i gadw eu cartrefi ac osgoi achosion llys hirfaith, costus.
Bydd y cyngor ar gael o’r eiliad y bydd tenant neu berchennog cartref yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig, a allai fod ar ffurf e-bost gan landlord neu lythyr gan ddarparwr morgais. Byddant hefyd yn gallu cael cynrychiolaeth gyfreithiol yn y llys, beth bynnag fo'u hamgylchiadau ariannol.
Bydd cyfreithiwr tai yn siarad â chi i ddeall pam eich bod mewn perygl o golli eich cartref. Gallai hyn fod yn gysylltiedig ag unrhyw un o'r problemau isod:
-
ôl-ddyledion rhent
-
taliadau morgais
-
taliadau budd-daliadau lles
-
dyled
-
diffyg atgyweirio tai
Bydd cymorth cyfreithiol ar gyfer materion tai, dyled a budd-daliadau lles yn helpu gyda'r materion ehangach y gall unigolion sydd mewn perygl o golli eu cartref eu hwynebu.
Unwaith y bydd y broblem wedi’i nodi, byddant yn eich helpu i ddatrys y mater er mwyn atal eich achos rhag mynd i’r llys. Os bydd gofyn i chi fynychu gwrandawiad llys, gall y cyfreithiwr tai eich cynrychioli ac amddiffyn eich achos.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai a dod o hyd i’ch darparwr agosaf ar wefan Llywodraeth y DU:
www.gov.uk/guidance/legal-aid-for-possession-proceedings
Peidiwch ag oedi. Sicrhewch gymorth cyfreithiol am ddim heddiw.