Mae ein Hadroddiad Pwls Tenantiaid Mini ar greu cartrefi mwy diogel bellach yn fyw!
Yn TPAS Cymru, credwn fod yn rhaid i leisiau tenantiaid fod wrth wraidd polisi tai.
Mae ein hadroddiad Pwls Tenantiaid diweddaraf yn rhannu llais y tenantiaid ar bwnc pwysig peryglon, diogelwch a chyfathrebu mewn ymateb i newidiadau awgrymedig i Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC). Clywsom leisiau tenantiaid o bob cwr o Gymru, ac rydym bellach yn falch o allu cyhoeddi ein hadroddiad i'r cyhoedd gyda'n mewnwelediadau.
Mae'r Adroddiad Pwls Tenantiaid hwn yn rhoi cipolwg ar ganfyddiadau, agweddau a phrofiadau tenantiaid ledled Cymru. Mae'n adlewyrchu lleisiau tenantiaid o bob rhan o Gymru ac o ystod eang o gefndiroedd.
Pwls Tenantiaid yw'r panel swyddogol ledled Cymru ar gyfer tenantiaid sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe'i sefydlwyd yn 2017 gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru).Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a neilltuodd eu hamser i gwblhau'r arolygon ac i'n cydweithwyr tai am eu cefnogaeth. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr.
Os ydych chi'n denant, beth am ymuno â'n panel Pwls Tenantiaid a dweud eich dweud? Ymunwch yma.
Enw'r adroddiad: Adroddiad Pwls Mini ar Ymgynghoriad Cartrefi Diogelach. Llais y tenantiaid ar newidiadau arfaethedig i bolisi tai.
Dyma'r ddolen i'r adroddiad
Cliciwch yma i weld y ddatgainad i'r Wasg.
Awdur: Eleanor Roberts
Cefnogwyd gan: Olivia Browne
Llongyfarchiadau i'r tenant o Dde-orllewin Cymru a enillodd y raffl gwobrau ar gyfer yr arolwg Pwls hwn!
TPAS Cymru would like to thank all of the tenants who dedicated their time to complete the surveys and to our housing colleagues for their support. We truly appreciate your time.
Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan:
