Lleisiau’r Sector ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol Newydd (Cymru)
Yr wythnos hon, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), gan nodi moment arwyddocaol i dai yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth hir-ddisgwyliedig hon yn addo diwygio sut mae digartrefedd yn cael ei atal a sut mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu; gan bwysleisio ymyrraeth gynnar, tegwch a chysondeb ar draws y sector tai.
Mae'n foment fawr i bawb sy'n ymwneud â thai, o denantiaid, staff rheng flaen, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, a sefydliadau'r trydydd sector fel ei gilydd.
Yn TPAS Cymru, rydym yn gwybod bod gan y rhai sy'n gweithio yn y sector fewnwelediadau hanfodol i'r hyn y mae'r Bil hwn yn ei olygu yn ymarferol a sut y gallai greu newid cadarnhaol. Dyna pam rydym wedi bod yn gwrando'n ofalus ar ymatebion cychwynnol ar draws y sector.
Yn yr erthygl hwn, rydym yn rhannu cipolwg ar yr hyn y mae eraill yn ei ddweud: yr hyn y maent yn ei groesawu, ble mae pryderon, a pha gwestiynau sy'n weddill wrth i'r Bil fynd trwy'r Senedd.
Dywedodd Eleanor Roberts, Arweinydd Polisi TPAS Cymru:
Mae cyflwyno Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn cynnig cyfle sylweddol i drawsnewid polisi tai yma yng Nghymru. Er ein bod yn parhau i fod yn optimistaidd ynghylch y potensial ar gyfer newid cadarnhaol, mae'n bwysig bod profiad y tenant yn parhau i fod yn ganolog drwy gydol y broses ddeddfwriaethol. Drwy sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi, gallwn greu system dai sy'n gweithio nid yn unig ar gyfer y presennol, ond hefyd ar gyfer y dyfodol.
Ymatebion y Sector:
Crisis - Yn croesawu'r Bil drafft, gan wneud sylw bod ganddo botensial i 'arloesi' ym maes atal digartrefedd.
Ymateb llawn yma: Crisis Yn ymateb i Bil Digartrefedd a Dyraniadau Tai Cymdeithasol carreg filltir | Crisis UK
Tai Cymunedol Cymru - Yn cefnogi nod y Bil i roi terfyn ar ddigartrefedd ac yn ymgysylltu ag aelodau i lunio ymateb llawn a gwybodus.
Ymateb llawn: Mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb, a rhaid inni gydweithio i leihau nifer y bobl sy'n ddigartref yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym yn cefnogi'r ymdrechion y mae'r Bil hwn yn eu gwneud i weithio tuag at y nod hwn. Mae cymdeithasau tai yn awyddus i chwarae eu rhan drwy atal, cefnogi a'r broses ddyrannu i sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac yn ddi-ailadrodd. Credwn fod creu'r amodau ar gyfer partneriaethau effeithiol yn allweddol i gyflawni hyn.
Rydym yn parhau i dreulio manylion y Bil ac yn ymgysylltu â'n haelodau i roi ymateb manwl i gynigion maes o law.
SST Cymru - Yn croesawu ffocws ataliol y Bil ond yn pwysleisio bod buddsoddi yn y gweithlu a chyflenwad tai yn hanfodol i roi terfyn ar ddigartrefedd. Datganiad llawn yma.
Cymorth Cymru - Yn croesawu uchelgais y Bil i roi terfyn ar ddigartrefedd ac yn pwysleisio'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau, tai a'r gweithlu.
Datganiad llawn yma - Cymorth Cymru yn croesawu bil digartrefedd newydd arloesol - Cymorth Cymru
Shelter Cymru - Yn cefnogi cyfeiriad y Bil ond yn annog hawliau cryfach, dyletswyddau cliriach, a mwy o fuddsoddiad i wneud diwedd ar ddigartrefedd yn realiti.
Datganiad llawn yma: Shelter Cymru yn ymateb i Fil Drafft Digartrefedd a Dyraniadau Tai Cymdeithasol - Shelter Cymru
Bydd TPAS Cymru yn parhau i fonitro ymateb a newyddion y sector ar y ddeddfwriaeth bwysig hon ac yn diweddaru'r dudalen hon yn unol â hynny.