Swydd Wag Newydd: Partner Ymgysylltu a Digwyddiadau (Gogledd Cymru)
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon
Noder: dyma rôl lle mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol * (Dylech chi allu siarad yn hyderus gyda siaradwyr Cymraeg rhugl ar bynciau sy'n ymwneud â bywyd bob dydd neu waith. Mynegi barn, cymryd rhan mewn trafodaethau, a siarad am bynciau cyffredinol, e.e. mewn cyfarfod, neu mewn sefyllfa un-i-un. Efallai y byddwch chi'n troi at y Saesneg wrth ddelio â sefyllfaoedd neu derminoleg gymhleth. Noder bod gennym ni gyfieithydd mewnol i gefnogi ein gwaith ysgrifenedig)
Pwy ydyn ni?
Mae TPAS Cymru yn sefydliad di-elw, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ers 35 mlynedd, rydym wedi gweithio ledled Cymru i ddatblygu ymgysylltiad tenantiaid effeithiol a llais tenantiaid mewn tai trwy hyfforddiant, cefnogaeth, prosiectau ymarferol a datblygu polisïau. Rydym wrth ein bodd â'r hyn a wnawn, ac rydym yn falch o'n gwaith.
Cefndir i'r rôl yma
Ar draws Cymru, mae 222,000 o aelwydydd tai cymdeithasol (tai Cyngor a Chymdeithasau Tai) a 230,000 o rentwyr preifat.
Yn TPAS Cymru, rydym eisiau i lais a phrofiadau tenantiaid fod wrth wraidd cynlluniau a chael eu clywed mewn penderfyniadau yn lleol ac ar lefel genedlaethol.
Ein rôl Partner Ymgysylltu a Digwyddiadau
Fel y Swyddog Ymgysylltu a Digwyddiadau byddwch yn datblygu, trefnu a chyflwyno digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb gan gynnwys hyfforddiant a briffiau, byddwch yn cynnal digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, grwpiau ffocws, ac yn dylanwadu ar landlordiaid a'r Llywodraeth. Mae angen i chi fod yn hyderus yn gweithio gydag ystod eang o bobl a chymunedau amrywiol yng Nghymru.
Math o gytundeb: Parhaol
Oriau: 21 awr yr wythnos (opsiwn i ymestyn i 28 awr / 4 diwrnod yr wythnos gyda dyletswyddau ychwanegol i'r ymgeisydd cywir)
Cyflog: £22,170 am 21 awr yr wythnos. (diwrnodau/oriau gwaith i'w cytuno gyda'r ymgeisydd)
(Er gwybodaeth, byddai'r cyfwerth amser llawn yn £36,950)
Lleoliad: Hyblyg - Hybrid: cartref / swyddfa ac allan gydag aelodau rhanbarthol o bryd i'w gilydd.
Yn ogystal â'r hyblygrwydd i weithio o gartref, mae gennym swyddfa ym Mae Colwyn y gellir ei defnyddio drwy gydol yr wythnos. Disgwylir y byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â'ch rheolwr llinell i drafod gwaith prosiect. Bydd teithio o bryd i'w gilydd ledled Cymru.
Mae gennym lwfans gwyliau da iawn, cyfraniad pensiwn o 5%, yswiriant bywyd grŵp, diwylliant moesegol.
Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi ac yn annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.
Pryderu nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf? Gwnewch gais beth bynnag!!
Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud cais am swydd fel hon, oherwydd eu bod yn teimlo nad ydyn nhw'n bodloni pob rhan arall o ddisgrifiad y swydd. Nid ydym yn bobl sy'n ticio'r blychau, rydym eisiau gwybod beth allwch chi ei gynnig, nid beth nad oes gennych chi, a dylai eich cais adlewyrchu hynny.
Os oes gennych yr agwedd a'r sgiliau sylfaenol cywir, rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ddatblygu i'r rôl. Ein hunig feini prawf hanfodol yw ein gofyniad iaith Gymraeg a nodir uchod.
Dyma'r Disgrifiad Swydd a manylion am y rôl hon
Yn ogystal, dyma drosolwg 1 tudalen o'r hyn y mae'r rôl fel arfer yn ei olygu
DYDDIADAU ALLWEDDOL
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 4pm, Dydd Iau 19 Mehefin
-
Dyddiad Cyfweliad: w/c 30 Mehefin
Diddordeb? Yn gyntaf, darllenwch y disgrifiad swydd uchod, ac rydym yn eich cynghori'n gryf i ddarllen y nodyn trosolwg ategol ynglŷn â sut beth yw'r rôl. Edrychwch hefyd ar ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan a sianel YouTube i gael gwybodaeth am ein gwaith. Dysgwch fwy am bwy ydym ni a'r hyn yr ydym yn ei gredu.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fanylach, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs anffurfiol. Anfonwch e-bost atom [email protected] a threfnwch amser am alwad.
Barod i ymgeisio?
-
Lawrlwythwch y ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal
-
Anfonwch y ddau yn ôl GYDA CV at [email protected] erbyn 4pm, Dydd Iau 19 Mehefin
Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.