Creu cartrefi gwell neu ' big brother'?
Dydd Mercher 9 July 2025 | 2:00pm – 3:15pm |
Mae mwy a mwy o gartrefi yn defnyddio synwyryddion i helpu gyda gwresogi, defnyddio ynni a chynnal a chadw. Ond er y gall y technolegau hyn wneud cartrefi'n fwy cyfforddus ac effeithlon, maent hefyd yn codi pryderon - A ydym yn cael ein gwylio? Oes gennym reolaeth? Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae synwyryddion yn cael eu defnyddio mewn cartrefi heddiw, sut y gallant helpu tenantiaid i arbed arian a chreu mannau byw mwy diogel, iachach a mwy cyfforddus, tra hefyd yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch preifatrwydd a rheolaeth.
Rydym yn gwahodd iOpt, aelod allweddol o'n Clwb Cefnogwyr Sero Net , i rannu mewnwelediadau arbenigol ac enghreifftiau ymarferol ar sut y gall synwyryddion fod o fudd i denantiaid. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol - mae hyn ar gyfer pawb. P'un a ydych chi'n denant, yn weithiwr proffesiynol tai, neu'n wirfoddolwr cymunedol, bydd y sesiwn hon yn egluro beth mae synwyryddion yn ei wneud, sut maen nhw'n cefnogi nodau Sero Net , a sut y gallant wella cysur, diogelwch a fforddiadwyedd.
Mae siaradwyr yn cynnwys:
-
Jonny McKinley – Rheolwr Marchnata, iOpt
-
Ross McCartney – Rheolwr Defnyddio ORP, Gosodwr ac Arweinydd Cyswllt Tenantiaid, iOpt
-
Mark Delbridge – Cyfarwyddwr Cyfrif ar gyfer Cwsmeriaid Cymru, iOpt
Beth fyddwch yn ei ddysgu:
-
Sut mae synwyryddion yn helpu i leihau gwastraff ynni a gwella cysur cartref
-
Straeon go iawn o osodiadau synwyryddion ledled Cymru
-
Sut mae technoleg yn cefnogi tenantiaid ac yn amddiffyn preifatrwydd
-
Chwalu mythau: beth nad yw synwyryddion yn ei wneud
-
Mewnwelediadau i gynllunio a rheoli defnyddiau synwyryddion
Pwy ddylai fynychu?
Tenantiaid, staff tai, aelodau'r bwrdd, contractwyr, neu unrhyw un sy'n chwilfrydig am dechnoleg glyfar mewn cartrefi.
Cost
-
Tenantiaid: AM DDIM
-
Staff/Bwrdd (aelodau): £49 + TAW
-
Staff/Bwrdd (Y rhai sydd ddim yn aelodau): £110 + TAW
Pethau i'w wybod:
-
Gweithdy ar-lein dros Zoom fydd hon
-
Bydd y sesiwn yn cael ei recordio
-
Nid oes angen unrhyw wybodaeth dechnegol flaenorol
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.
Telerau ac Amodau - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Synwyryddion mewn Cartrefi: Gwneud Eich Cartref yn Gyfforddus, yn Ddiogel, ac yn Effeithlon o ran Ynni
Dyddiad
Dydd Mercher
09
Gorffennaf
2025, 14:00 - 15:15
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 08 Gorffennaf 2025
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad