Clywed Llais y Tenantiaid – Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru
Mae TPAS Cymru wastad yn awyddus i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yng Nghymru yn cael eu clywed: yn enwedig wrth edrych ar bolisïau tai.
Gyda hyn mewn golwg gwahoddwyd Mike Corrigan o Lywodraeth Cymru i ymuno â ni ar gyfer Rhwydwaith Tenantiaid mis Awst: roedd yn gyfle gwych i denantiaid o bob rhan o Gymru roi eu barn ar y Papur Gwyn Adeiladau Diogelach yng Nghymru.
Mynychodd dros 25 o denantiaid o RSLs ac Awdurdodau Lleol o bob rhan o Gymru y rhwydwaith ar-lein. Eglurodd Mike Corrigan mai dim ond un darn o waith ymgynghori oedd hwn sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd Mike am farn tenantiaid ar rai cwestiynau penodol ynghylch, cyfrifoldeb am ddiogelwch adeiladau a’r math o wybodaeth y dylai tenantiaid ei darparu’n awtomatig, a pha wybodaeth diogelwch adeiladu ychwanegol yr hoffent a/neu y gallent ofyn amdani.
Dywedodd un tenant “Mae Mike Corrigan yn gyfarwydd iawn â'r pynciau dan sylw ac yn barod i drafod materion cymhleth a'u symleiddio fel bod pawb yn gallu deall.”
Roedd y mewnbwn gan denantiaid yn amhrisiadwy: rhoddodd eu profiadau byw, y mewnbwn a glywant gan y corff tenantiaid ehangach, a’u dymuniad i wella gwasanaethau i bob tenant, gyfoeth o wybodaeth a barn i Mike Corrigan a’i gydweithiwr.
Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd:
-
materion diogelwch tân yn ymwneud â thenantiaid sy'n byw ag anableddau;
-
yr angen i Landlordiaid ddarparu gwybodaeth diogelwch adeiladau mewn iaith glir i denantiaid;
-
tenantiaid sydd eisiau gwybod enw'r unigolyn sy'n gyfrifol am bolisi Adeiladau Mwy Diogel eu Landlord (gwelwyd bod hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a'r berthynas rhwng landlord a thenantiaid mewn perthynas ag Adeiladau Mwy Diogel);
-
a ddylai diffoddwyr tân a/neu flancedi tân fod ar gael i denantiaid sy’n byw mewn fflatiau.
Bydd yr holl gyfraniadau’n cael eu bwydo’n ôl gan Mike a’i gydweithiwr i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt eu hystyried wrth ddatblygu’r polisïau a gweithdrefnau Adeiladau Diogelach ymhellach.
Meddai un o'r tenantiaid oedd yn bresennol “Clywyd pawb a ofynnodd am gael siarad a chymerodd Mike nodiadau am bopeth a grybwyllwyd gennym, roeddech yn teimlo bod gennych fewnbwn defnyddiol”.
Roedd y rhwydwaith wedi'i amserlennu'n wreiddiol am awr a hanner, ond oherwydd y diddordeb a ddangoswyd yn y cwestiynau a'r pwnc yn gyffredinol, gwahoddwyd y cynadleddwyr i aros am hanner awr ychwanegol i barhau â'r trafodaethau.
Mynegodd Mike ei ddiolchgarwch i bawb a fynychodd, am eu cyfraniadau hanfodol a’u cwestiynau. Yn ddiweddarach eleni bydd TPAS Cymru yn gwahodd Mike i roi diweddariad ar sut y defnyddiwyd mewnbwn y rhwydwaith tenantiaid gan Lywodraeth Cymru i lunio’r polisi Adeiladau Mwy Diogel.
Diolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at y pwnc hynod bwysig hwn. Cynhelir Rhwydweithiau Tenantiaid TPAS Cymru yn fisol ac maent am ddim i unrhyw denant sydd â diddordeb mewn ymuno ar-lein. Maent yn ffynhonnell o arfer da ac yn darparu cyfleoedd i denantiaid rwydweithio a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf, dyma ymateb un tenant i’r cwestiwn: Beth oedd y peth gorau am y digwyddiad? “Y cyfle i gael sgyrsiau gwych gyda swyddog o Lywodraeth Cymru a oedd wir yn gwrando ar yr hyn oedd gan yr holl denantiaid i’w ddweud. Pwnc pwysig iawn, ond hefyd sesiwn hynod bleserus a gwerthfawr”.