Coronafirws / COVID-19 - Diweddariad gan TPAS Cymru
Oherwydd yr achos Coronavirus / COVID-19 mae Staff a Bwrdd TPAS Cymru wedi cytuno i ohirio ein digwyddiadau wyneb yn wyneb ar gyfer y mis nesaf (hyd at 20 Ebrill) tra byddwn yn cael gwybodaeth bellach.
Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau'n newid o hyd o ran cyfarfodydd a digwyddiadau, ond credwn y byddai’n anghywir ac yn anghynhyrchiol cynnal y digwyddiadau hyn ar hyn o bryd gan ein bod yn dymuno amddiffyn tenantiaid a staff tai a rhoi ein hymdrechion i gefnogi landlordiaid a phartneriaid i ganolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am ddiweddariadau mewn polisi, arfer gorau a rhannu gwybodaeth trwy sianeli digidol fel e-bost, gwefan a grwpiau aelodau cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym hefyd hanes cryf o ddefnyddio gweminarau a chyfarfodydd ar-lein ac rydym yn trafod sawl digwyddiad dan arweiniad digidol ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.
Mae’r digwyddiadau sydd wedi eu gohirio yn cynnwys:
-
Digwyddiad Lansio Rhaglen Waith – 18 Mawrth – Conwy
-
Digwyddiad Lansio Rhaglen Waith – 19 Mawrth – Caerdydd
-
Rhwydwaith Anabledd – 19 Mawrth – Casnewydd
-
Rhwydwaith Staff Tai â Chefnogaeth – 25 Mawrth – Bae Colwyn
-
Rhwydwaith Swyddogion y Gorllewin – 31 Mawrth – Caerfyrddin
-
Rhwydwaith Anabledd – 1 Ebrill - Aberystwyth
O ran y digwyddiadau a ganslwyd uchod - byddwn mewn cysylltiad uniongyrchol â'r holl gynrychiolwyr dros y 24 awr nesaf. O ran digwyddiadau ar ôl 20 Ebrill 2020, byddwn yn gwneud penderfyniad wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Cofion gorau,
David Wilton, Prif Weithredwr