Cyflwyno Wythnos Llais Ieuenctid
Wythnos Llais Ieuenctid 2-6 Tachwedd 2020 – yr hyn sydd angen i chi wybod
Eleni mae TPAS yn lansio Wythnos Llais Ieuenctid, sy'n ceisio rhoi sylw i bobl ifanc a'u barn. Rydym yn credu ei bod hi'n bwysig iawn ystyried barn pobl ifanc, gan ein bod yn credu y byddant yn cael yr effaith fwyaf ar y byd rydym yn byw ynddo.
Gan fod yr wythnos sy'n dechrau Tachwedd 2il yn nodi chwe mis tan yr etholiad Senedd nesaf a hefyd y tro cyntaf y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio, rydym yn lansio wythnos o fideos, blogiau a chystadlaethau.
Felly beth allwch chi ei wneud nawr?
-
Rydym eisiau canmol prosiectau sy'n rhoi llais i bobl yn eu cymunedau. Anfonwch linell neu 2 atom am yr hyn yw, a chynnwys dolen i wefan/cyfryngau cymdeithasol a byddwn ei ddangos yn ein hadran Canmoliaeth yr wythnos. Anfonwch i [email protected]
-
Meddyliwch sut rydych chi'n mynd i ennill gwobr. Rydym eisiau clywed popeth am sut rydych chi wedi creu newid, neu sut y byddech chi'n creu newid yn eich ardal chi pe byddech chi'n cael y cyfle. Byddwn yn dosbarthu gwobrau trwy gydol yr wythnos, felly cadwch eich llygad ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i weld y gystadleuaeth fwyaf newydd!
Rydym wedi creu crynodeb defnyddiol o'r cystadlaethau rydym yn eu cynnal bob dydd, er mwyn i chi allu paratoi eich atebion ar gyfer yr wythnos i ddod!
Dydd Llun 2il Tachwedd:
Gan ein bod yn hyrwyddo pobl ifanc a'u llais a'u barn yr wythnos hon, byddem wrth ein bodd clywed am ymgyrchoedd yr oeddech yn rhan ohonynt pan oeddech o dan 25 oed. Mae mor bwysig inni ystyried y bobl ifanc yn ein hardaloedd, a'r hyn yr hoffent iddo fod yn wahanol. Felly p'un a ydych chi'n hen neu'n ifanc, hoffem glywed am ymgyrch yr oeddech chi'n rhan ohoni ar yr adeg honno yn eich bywyd, a pham yr oedd mor bwysig ichi fod yn rhan ohoni.
Dydd Mawrth 3ydd Tachwedd:
Rydym yn gwybod nad yw bod yn rhan o ymgyrch bob amser yn hawdd nac yn syml, ond gyda ffocws a gyriant, gallwn gyflawni unrhyw beth. Byddem wrth ein bodd yn clywed am gyfnod lle roeddech chi'n rhan o rywbeth a lwyddodd i sicrhau newid lleol. Dywedwch wrthym sut y gwnaethoch hynny a'r camau a gymerwyd gennych i gyrraedd yno, gan fod y siwrnai i greu newid yr un mor bwysig â'r newid ei hun!
Dydd Mercher 4ydd Tachwedd:
Fel cenedl, rydym yn newid ac yn esblygu bob dydd yn lleol ac ar lefel genedlaethol. Ceir ymgyrchoedd a mentrau newydd yn gyson, sydd i gyd mor bwysig â'r nesaf. Felly hoffem ichi ddweud wrthym am eich syniadau ar gyfer ymgyrch leol yr hoffech ei dechrau. Heb syniadau mawr neu fach, ni fyddai newid byth yn cael ei gyflawni, felly beth bynnag yw eich syniad, gadewch inni wybod amdano.
Dydd Iau 5ed Tachwedd:
Mae'r ffaith fod pobl ifanc yn cael pleidleisio yn etholiadau Cymru yn rhoi barn iddynt yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn rhoi mwy o lais iddynt nag oedd ganddynt o'r blaen. Ond gallwn bob amser wneud mwy nag yr ydym ar hyn o bryd. Yng ngoleuni hyn, pa offer/ technegau fyddech chi'n eu defnyddio i helpu pobl ifanc yng Nghymru gael llais? A fyddech chi'n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? Neu'n ysgrifennu at y wasg? Credwn fod pob unigolyn yn haeddu llais.
Dydd Gwener 6ed Tachwedd:
Mae bod yn Brif Weinidog Cymru yn gyfrifoldeb enfawr ac mae’n wynebu beirniadaeth y Genedl bob dydd, gan fod llygaid Cymru’n gwylio’n gyson. Hoffem wybod pa un peth y byddech chi'n ei newid pe byddech chi'n Brif Weinidog Cymru am un diwrnod yn unig. Dim ond tan hanner dydd y bydd cystadleuaeth dydd Gwener yn rhedeg, felly sicrhewch eich bod yn anfon eich ceisiadau i mewn yn gynnar fel y gallwch gael cyfle i ennill y wobr!
Cyhoeddir enillwyr y cystadlaethau brynhawn Gwener (6ed), felly cadwch eich llygaid yn agored i weld pwy yw'r enillwyr a beth allant ei ennill! Pob lwc i bawb, peidiwch â bod yn swil ynglŷn â rhannu eich straeon gan ein bod eisiau eu clywed i gyd.