Cyhoeddi canllawiau ar gymorth i denantiaid
Ddoe, anfonodd Llywodraeth Cymru y neges isod ynglŷn â chanllawiau newydd ar gyfer tenantiaid. Mae'r canllawiau yn amlinellu'r mathau o gymorth ariannol sydd ar gael i denantiaid.
Fel y gwyddoch, mae'r argyfwng presennol yn effeithio ar allu pobl i dalu eu rhent a biliau'r aelwyd. Rydym wedi galw ar landlordiaid i fod yn gefnogol ac yn hyblyg drwy gydol y cyfnod hwn, ond rydym yn cydnabod na fydd hyn yn golygu bod dyledion sy'n cronni yn ystod y cyfnod hwn yn diflannu.
Mae tipyn o gymorth ar gael, ond yr her yw gwybod at bwy i droi a sut i gael y cymorth hwnnw. Er mwyn helpu gyda'r materion hyn, cyhoeddwyd canllawiau newydd 'Cymorth sydd ar gael i denantiaid yng Nghmru - COVID-19' gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Mae'r canllawiau ymarferol hyn yn nodi'r math o gymorth ariannol sydd ar gael i denantiaid, o dan ba amodau y mae ar gael, a ble i fynd i gael cyngor a chymorth. Mae hefyd yn egluro pa gymorth brys sydd ar gael i bobl os byddant yn wynebu heriau ariannol sylweddol.
Mae'n hanfodol bwysig i denantiaid fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael. Felly rydym yn gofyn i chi rannu'r canllawiau mor eang â phosib i sicrhau bod tenantiaid yn cael yr wybodaeth gywir i weithredu'n sydyn a gosod mesurau yn eu lle i wella eu llesiant corfforol ac emosiynol yn ystod yr argyfwng, ond hefyd i atal materion rhag gwaethygu yn ystod y misoedd yn dilyn Covid-19.
Hoffem ddiolch i'r rhanddeiliaid sydd wedi'n cynorthwyo i ddatblygu'r canllawiau hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]