Yma yn TPAS Cymru rydym yn awyddus i gefnogi ein haelodau ar yr adeg hon trwy gydlynu rhannu cynlluniau neu arfer sy'n ymwneud ag effaith pellhau cymdeithasol / hunan-ynysu ar eich gweithgareddau Ymgysylltu â Thenantiaid a'r Gymuned.

 

Dysgu ar y Cyd: COVID-19 a'r hyn y mae'n ei olygu i Ymgysylltu â Thenantiaid a'r Gymuned

Yma yn TPAS Cymru rydym yn awyddus i gefnogi ein haelodau ar yr adeg hon trwy gydlynu rhannu cynlluniau neu arfer sy'n ymwneud ag effaith pellhau cymdeithasol / hunan-ynysu ar eich gweithgareddau Ymgysylltu â Thenantiaid a'r Gymuned. Sut mae'ch tîm ymgysylltu Tenantiaid / Cymunedol yn addasu i'r ffyrdd newidiol y bydd yn rhaid i ni weithio ynddynt, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf?

Os ydych chi'n hapus i rannu'ch cynlluniau neu'r hyn rydych chi'n ei wneud, gan gynnwys unrhyw farn yn seiliedig ar unrhyw un o'r themâu isod, byddwn ni'n tynnu'r wybodaeth rydyn ni'n ei derbyn at ei gilydd a'i rannu ymhlith ein haelodaeth ledled Cymru.

  • Sut mae eich tîm ymgysylltu yn addasu?
  • Sut ydych chi'n cyfathrebu â'ch tenantiaid – yn enwedig y rhai heb offer/dulliau digidol?
  • Sut ydych yn bwriadu cadw mewn cysylltiad â thenantiaid gweithredol tra bydd gweithgareddau wyneb yn wyneb / grwpiau yn cael eu gohirio?
  • Sut y gallech fod yn defnyddio technegau digidol yn fwy ar gyfer ymgysylltu?
  • Sut y gallech fod yn ceisio lleihau effaith ynysu cymdeithasol ar eich tenantiaid?
  • A oes ffyrdd newydd yr ydych yn bwriadu cynnwys eich tenantiaid?

Croesawir unrhyw wybodaeth neu syniadau, er enghraifft mae croeso i chi anfon dolenni atom i unrhyw dudalennau gwe, cyfryngau cymdeithasol ac ati

Gallwch ddanfon unrhyw wybodaeth at [email protected] neu rhowch alwad i ni am sgwrs.