Mae angen i Arolwg Effeithlonrwydd Ynni Cymru Gyfan NEWYDD 2023 TPAS Cymru glywed eich llais. Cwblhewch yr arolwg 5 munud hwn a rhannwch eich barn ar dai ynni effeithlon a sut mae’r argyfwng ynni wedi effeithio arnoch chi

Ydych chi'n denant sy'n rhentu yng Nghymru? 

Mae TPAS Cymru yn gyffrous i lansio ei arolwg Pwls Tenantiaid 2023 ar Sero Net ac effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.

Rydym wedi lansio ein harolwg Effeithlonrwydd Ynni Cymru Gyfan 2023, sy’n archwilio agweddau tenantiaid tuag at ddatgarboneiddio tai yng Nghymru. Mae’r argyfwng ynni wedi achosi i lawer newid y ffordd y maent yn byw yn eu cartrefi ac wedi gorfodi Sero Net a datgarboneiddio i ddod yn brif flaenoriaeth mewn tai.

Mae llawer o bobl wedi wynebu caledi ers dechrau’r argyfwng costau byw yn 2022, a chredwn y bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn cynyddu’r brys y tu ôl i wneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni, yn gynnes ac yn Sero Net.

Mae TPAS Cymru angen eich llais ar hyn o bryd i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynrychioli yn ein hadroddiad ar leisiau tenantiaid yng Nghymru, a’n hargymhellion ar gyfer y dyfodol dros y flwyddyn nesaf i randdeiliaid a swyddogion y Llywodraeth. 

Os ydych chi'n denant yng Nghymru, gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed trwy lenwi'r arolwg 5 munud hwn.

Pwls Tenantiaid

Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan i denantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Cafodd ei greu 4 blynedd yn ôl gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg bob chwarter ar faterion cyfoes i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat a'r rheini mewn tai â chymorth.

Os ydych yn denant pam na wnewch chi ymuno â’n Panel Pwls Tenantiaid i gael dweud eich dweud?

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

Daw’r arolwg hwn i ben ar Ebrill 24, 2023

Enillwyr y raffl flaenorol ym mis Tachwedd oedd:

  • Mrs McCarroll - Tenant CSF Wrecsam
  • Mrs Carleton - Tenant CT Taff 
  • Mrs Hart - Rhentiwr Preifat, Sir Gâr

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan