At sylw Tenantiaid a Rhentwyr yng Nghymru (Cyngor, Cymdeithasau Tai a Rhentwyr Preifat)
Mae angen eich barn!
Mae biliau eich cartref yn codi boed yn gostau tanwydd ac ynni, bwyd, trethi neu renti. Wrth i bobl frwydro gyda chynnydd sylweddol mewn trydan a nwy, mae TPAS Cymru yn gweld cynnydd mewn tlodi tanwydd a chwynion lleithder a llwydni.
Mae angen inni leihau costau ynni ac un ffordd o wneud cartrefi yn fwy ynni-effeithlon. Ar ôl siarad â thenantiaid, landlordiaid a llunwyr polisi rydym wedi datblygu ein hail Arolwg Ynni a SeroNet Cenedlaethol blynyddol. Mae’r ymatebion o’r arolygon hyn wedi helpu’r llywodraeth, landlordiaid a llunwyr polisi i glywed barn a phrofiadau tenantiaid a sicrhau bod eich lleisiau yn ganolog i benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eich bywydau a’ch cartrefi.
Cliciwch yma i roi eich barn, ni fydd yn cymryd mwy na 5 munud.
(Ar y diwedd, gallwch chi roi cynnig ar ein raffl i ennill amrywiaeth o wobrau bwyd blasus Cymreig)
I weld canlyniadau/adroddiadau o'n harolygon Pwls Tenantiaid blaenorol ewch i https://www.tpas.cymru/ynghylch/pwls-tenantiaid
2il gais: Ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yn unig:
Mae gan y Sefydliad Tai Siartredig (DU) gais. Maen nhw eisiau barn tenantiaid ar ddigartrefedd, yn enwedig digartrefedd ieuenctid. Maent wedi creu'r arolwg hwn a ddylai gymryd llai na 15 munud i'w gwblhau. Byddent yn ddiolchgar iawn pe byddai tenantiaid tai cymdeithasol yn ei chwblhau. https://dmubs.qualtrics.com/jfe/form/SV_eyxu3zQZkqemdDg
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol gennym ni, anfonwch e-bost at [email protected]
Diolch am eich cefnogaeth barhaus,
Tîm TPAS Cymru