Cawsom ein llethu gyda'r holl gyflwyniadau gwych a gawsom ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2021 ac roeddem eisiau rhannu gwaith anhygoel yr enillwyr gyda chi

Enillwyr Gwobrau Arfer Da 2021: Rhagor o wybodaeth am eu gwaith a'u cyflawniadau

Cawsom ein llethu gyda'r holl gyflwyniadau gwych a gawsom ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2021 ac roeddem eisiau rhannu gwaith anhygoel yr enillwyr gyda chi

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni ar-lein arbennig ar 15 Rhagfyr 2021.  

Oherwydd y pandemig Covid-19 nid oeddem yn gallu cynnal ein Seremoni Wobrwyo wyneb yn wyneb.  Fodd bynnag,  nid oeddem eisiau i waith caled ein haelodau; landlordiaid, tenantiaid a chymunedau beidio cael eu cydnabod yn ystod y cyfnod arbennig o anodd yma.

Ar gyfer ein digwyddiad 2021 fe grëwyd pedwar categori Gwobrau Arfer Da:

  • Cymunedau yn Cefnogi Cymunedau
  • Gwneud i Gyfranogiad Tenantiaid Weitho Ar-lein
  • Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio Gwasanaethau
  • Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr
  • Tenant y Flwyddyn

Hefyd, cyflwynodd y beirniaid Wobr cydnabyddiaeth arbennig.

Rydym wedi llunio yr adroddiad isod i chi ei lawr lwytho:

Adroddiad Arfer Da

Mae'r adroddiad yn rhoi mwy o wybodaeth am bob un o’r 6 enillydd a 3 Uchaf y beirniad ym mhob categori. 

Diolch i enwebwyr y gwobrau am ddarparu'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad hwn. Rydyn ni wedi ychwanegu eu manylion cyswllt ar gyfer pob un o'r ceisiadau buddugol os ydych chi eisiau darganfod mwy am y prosiectau.

Hoffem hefyd ddiolch i’r holl denantiaid a helpodd yn garedig â dyletswyddau hwyluso ac i Lywodraeth Cymru i ariannu'r digwyddiad yn rhannol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n noddwyr Tai Cymru a’r Gorllewin. Diolch! 😊

Yn olaf, hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a enwebwyd ym mhob categori. Roedd 2021 yn flwyddyn anodd arall i bob un ohonom, fodd bynnag, eich straeon a phobl fel chi sy'n rhoi rheswm inni ddal ati i wenu, hyd yn oed yn ystod y dyddiau anodd

Diolch unwaith eto