Yn Etholiadau nesaf y Senedd, ymhen 6 mis yn union am y tro cyntaf bydd cyfle i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed i bleidleisio. Dyma'r newid mwyaf i system bleidleisio ddemocrataidd Cymru er 1969.

Guy Fawkes, pleidleisiau i bobl ifanc 16 mlwydd oed, a 6 mis tan etholiadau Senedd

Cofiwch y 5ed o Dachwedd, bradwriaeth y powdwr gwn a… pleidleisio? Mae'r amseroedd wedi newid, does dim rhaid i chi ddilyn camau Guto Ffowc i ddweud eich dweud ynghylch pwy sy'n camu i senedd Cymru mwyach. Yr hyn sy'n gwneud etholiadau Senedd 2021 hyd yn oed yn well yw bod gan bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yr hawl i bleidleisio o'r diwedd. Ar ôl llawer o ddadlau, bydd 70,000 mwy o bleidleisiau gan bobl ifanc yn cael eu hychwanegu at etholiadau nesaf Senedd Cymru. Y farn gyffredinol yw bod hwn yn newid cadarnhaol i Gymru ac yn gam yn y cyfeiriad cywir. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn yn y sylwadau isod!

Yn Etholiadau nesaf y Senedd, ymhen 6 mis yn union am y tro cyntaf bydd cyfle i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed i bleidleisio. Dyma'r newid mwyaf i system bleidleisio ddemocrataidd Cymru er 1969.

Yn Etholiadau Senedd 2021 bydd pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yn pleidleisio dros bwy fydd yn eu cynrychioli yn Senedd Cymru wrth fynd ymlaen. Bydd y newid hanesyddol hwn i broses bleidleisio Cymru yn caniatáu i 70,000 o bobl ifanc i gael hawliau pleidleisio a'r gallu i leisio'u barn.

Daw’r newid gyda dadleuon, gyda Phlaid Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn cefnogi Deddf Senedd ac Etholiadau Cymru 2020, ond Ceidwadwyr Cymru a phlaid Brexit yn gwrthwynebu.

Dim ond mewn Etholiadau sydd ddim yn San Steffan y gall pobl ifanc o Gymru, fel yr Alban, bleidleisio. Mae hyn yn cynyddu’r pwysau i Loegr greu’r un newid, rhywbeth sy’n dod yn fwyfwy disgwyliedig gan y cyhoedd wrth i amser fynd yn ei flaen.

Mae dadl na ddylai pobl ifanc gael y cyfle i bleidleisio yn yr etholiad hwn gan eu bod yn rhy ifanc ac yn rhy annysgedig ar wleidyddiaeth Cymru i allu ffurfio barn gyflawn ar bwy ddylai gamu i'r Senedd nesaf.

Fodd bynnag, mae'n dod yn fwyfwy amlwg trwy ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook, lle gall pobl ifanc arddangos eu barn yn gyhoeddus, bod gan genhedlaeth iau Cymru lawer mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth nag yr oeddent yn arfer bod, a'u bod yn haeddu cael llais yng Ngwleidyddiaeth Cymru.

Dywed Llywydd y Senedd, Elin Jones AC fod “disgwyl hir” am y newid mewn pleidleisio i bobl ifanc yng Nghymru. Meddai Elin: "Bydd pleidleisio yn 16 yn grymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac yn rhoi llais cryfach i bobl ifanc yn nyfodol ein cenedl.

" Mae grymuso pobl ifanc i bleidleisio yn 16 oed yn ddatganiad pwerus gan y Senedd ein bod yn gwerthfawrogi eu barn.

" Bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn dod ag egni newydd i'n proses ddemocrataidd.”

Yn yr un modd na chytunodd pleidiau gwleidyddol Cymru yn llwyr a ddylai pobl ifanc allu pleidleisio, mae'r gymuned Twitter yr un peth. Dywed Darth Grey (HouseofBomeor): “A yw pobl ifanc 16 oed yn talu treth ar unrhyw enillion? (Ydyn mae nhw.) Felly dylid caniatáu iddyn nhw bleidleisio. Dim trethiant heb gynrychiolaeth.”

Fodd bynnag, dywed Tony (JoinRejoinEU): “Rhaid cael tystiolaeth bod y grŵp oedran 16 mlwydd oed yn gallu, nid yn unig pleidleisio, ond meddwl yn feirniadol. Mae gormod o bobl yn gwrando ar bethau ac yn ei gredu. Gallaf ddychmygu y gallai pobl ifanc 16 mlwydd oed fod yn fwy ymatebol. Fe allwn i fod yn anghywir.”

Y ffordd hawsaf o gofrestru i bleidleisio ar gyfer yr etholiadau hyn yw ar-lein yn gov.uk/register-to-vote. Nid yw'n rhy hwyr i bleidleisio felly cofrestrwch nawr!

Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i gofrestru. Rydych angen eich enw, dyddiad geni, Rhif Yswiriant Gwladol a chyfeiriad. Mae'n system mor syml, felly nid oes unrhyw reswm mewn gwirionedd i beidio â chofrestru!

Rydym yn edrych ymlaen at weld y genhedlaeth iau o bleidleiswyr Cymru yn cael dweud eu dweud yn Etholiadau Senedd 2021 ar y 6ed o Fai.