Gwasanaethau ymgysylltu â'r gymuned a hwyluso annibynnol: ar-lein neu’n bersonol
Yma yn TPAS Cymru rydym wedi adeiladu hanes cadarn o ddarparu gwasanaethau a chyngor ymgysylltu â'r gymuned a hwyluso annibynnol o ansawdd uchel i sefydliadau ledled Cymru.
Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi datblygu ein harbenigedd a sgiliau hwyluso ymhellach i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar-lein gan ddefnyddio dulliau newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.
Rydym yn darparu hwyluso annibynnol, naill ai ar-lein neu'n bersonol, ar gyfer sesiynau cyhoeddus, rhanddeiliaid a chymunedol sy'n gwella ymgysylltiad ac yn helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Gallwn helpu i ddylunio a hwyluso digwyddiadau neu gadeirio cyfarfodydd yn amrywio o sesiynau awr i weithdai diwrnod llawn.
Mae ein hwyluswyr yn brofiadol iawn, a gallwn ddarparu naill ai un hwylusydd neu amryw ohonynt, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Gan ddefnyddio ystod o ddulliau ymgysylltu cyfranogol a sgiliau cyfathrebu a phobl ragorol, rydym yn arbenigo mewn gweithio gydag ystod o gynulleidfaoedd amrywiol gydag ystod o ddisgwyliadau ac anghenion i sicrhau canlyniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd.
Gallwn hefyd ddarparu trwy gyfrwng Cymraeg a darparu cefnogaeth Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Rydym yn gallu hwyluso:
-
Sesiynau gweithdy a chyfarfodydd
-
Sesiynau ar-lein neu bersonol
-
Prosesau sy'n cynnwys materion anodd, dadleuol neu sensitif
-
Digwyddiadau unwaith yn unig neu gyfres o sesiynau
P'un a oes angen cymorth arnoch i hwyluso digwyddiad aml-randdeiliad mawr i nodi blaenoriaethau lleol, cyfres o grwpiau ffocws a gweithdai i ddatblygu syniad, neu rywun a all weithio gyda grŵp bach sy'n gwneud penderfyniad anodd, gallwn ddarparu cefnogaeth i chi.
Cysylltwch â ni - byddem wrth ein bodd yn rhoi mwy o fanylion i chi ar yr hyn a wnawn, a rhannu syniadau gyda chi [email protected]