Gweithdy Llywodraeth Cymru ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd
Yn TPAS Cymru rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed, eu hystyried a'u bod yn helpu i lunio polisi ac arfer tai yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Sicrhau llwybr tuag at Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd drwy Bapur Gwyn:
Papur Gwyn ar sicrhau llwybr tuag at dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd | LLYW.CYMRU
I gefnogi casglu tystiolaeth fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weithdai i ofyn am eich barn. Mae hyn yn cynnwys digwyddiad i denantiaid preifat ddydd Iau 16 Ionawr 2025. Cynhelir y digwyddiad hwn yng Nghaerdydd i denantiaid preifat.
Gweler rhagor o wybodaeth isod gan Lywodraeth Cymru:
Rydym yn chwilio am farn ar yr ymyriadau tymor byr i ganolig a gynigir yn adran ‘Rhenti Teg’ y Papur Gwyn, sy’n edrych ar wella fforddiadwyedd, bywiogrwydd a hygyrchedd y Sector Rhentu Preifat. Mae’r cynigion hyn yn elfen allweddol o’n hymrwymiad i sicrhau digonolrwydd tai.
I gefnogi’r gwaith hwn o gasglu tystiolaeth, rydym yn ceisio casglu barn tenantiaid y sector rhentu preifat.
Rydym yn cynnal y digwyddiad canlynol ar gyfer tenantiaid y sector rhentu preifat:
Dydd Iau 16 Ionawr, 18:00-20:30 (gyda bwffe)
Gwesty Radisson Blu,Meridian Gate, Bute Terrace,Caerdydd CF10 2FL
Gllwch gofrestru trwy'r ddolen isod:
https://www.eventbrite.co.uk/e/workshop-white-paper-on-adequate-housing-fair-rents-and-affordability-tickets-1115646240939?aff=oddtdtcreator
Bydd y gweithdy yn cynnwys cinio bwffe am ddim. Yn ogystal, yn gyfnewid am gymryd rhan, bydd y mynychwyr yn derbyn dau Gredyd Amser Tempo y gellir eu cyfnewid am amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau.