O heddiw ymlaen, bydd yn rhaid darparu gwybodaeth am flaendaliadau, rhent a manylion cyswllt landlord / asiant i bob darpar denant preifat cyn y gellir cymryd blaendal cadw.
Yn hytrach na blaendal diogelwch, sydd yno i dalu am unrhyw ddifrod y mae tenantiaid yn ei achosi i eiddo, telir blaendal cadw i gadw eiddo tra bydd unrhyw weinyddiaeth cyn-gontract yn cael ei wneud.
Cyn i landlord neu asiant gymryd blaendal cadw gennych, mae’n rhaid iddynt ddarparu’r wybodaeth ganlynol i chi:
-
swm y blaendal cadw (3),
-
cyfeiriad yr annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi,
-
pan fo blaendal cadw i’w dalu i asiant gosod eiddo, enw a manylion cyswllt yr asiant gosod eiddo hwnnw,
-
pan fo blaendal cadw i’w dalu i landlord, enw a manylion cyswllt y landlord hwnnw,
-
hyd y contract,
-
dyddiad meddiannaeth arfaethedig,
-
swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall,
-
cyfnod rhentu,
-
unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol neu delerau y bwriedir eu hepgor o’r contract,
-
swm unrhyw flaendal sicrwydd,
-
a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol,
-
gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal, a
-
gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.
Ymhellach i hyn, mae’r rheoliadau yn nodi bod: “Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a chaniateir ei rhoi yn bersonol neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.”
Nod y rheoliadau hyn yw helpu tenantiaid i deimlo'n fwy diogel, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r holl brosesau neu daliadau sy'n angenrheidiol cyn dechrau rhentu eiddo.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rheoliadau hyn, cysylltwch â ni [email protected]
Os ydych yn teimlo nad yw eich asiant neu landlord yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y rheoliadau hyn, cysylltwch â'r timau rhagorol yn Shelter Cymru neu'r Cyngor ar Bopeth.