Lleihau Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol
Argymhelliad Gwefan: Nextdoor
Yn ystod yr amseroedd digynsail hyn, y pandemig byd-eang COVID-19, rydym i gyd yn cael anhawster i bellhau’n gymdeithasol oddi wrth ein ffrindiau a’n teulu ac i ddelio â’r ymdrechion a ddaw o orfod aros adref. Beth bynnag fo'ch sefyllfa, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn amlwg yn ein hunaniaeth fyd-eang gyfredol. Felly, mae TPAS Cymru eisiau dangos pŵer cyfathrebu digidol i chi, yn enwedig yn ystod yr amseroedd unig hyn. Rydym yn eich cyflwyno i'r wefan wych: Nextdoor.

Mae Nextdoor, a lansiwyd yn 2011, yn llwyfan rhwydweithio cymdeithasol sy'n gweithio yn seiliedig ar eich lleoliad penodol. Ar ôl i chi nodi'ch cod post, ac ateb ychydig o gwestiynau syml, gallwch wedyn ryngweithio â'ch cymuned leol, unrhyw un yn eich ardal leol sydd hefyd yn defnyddio'r platfform.
Mae gan y platfform naws gymunedol gadarnhaol, mae’n le diogel. Mae'n amrywiol ac mae ystod o bynciau a thrafodaethau ar gael. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys pethau fel ‘Ar Goll a Chanfod’, ‘Digwyddiadau', ‘Ar Werth’, ‘Busnes’ a ‘Trosedd a Diogelwch’, ymhlith eraill. Nid yn unig y gall yr ap eich helpu i gael at ddigwyddiadau a chynulliadau lleol, ond gall hefyd eich helpu i ddod o hyd i fusnes neu hyd yn oed eich helpu i ddod o hyd i'ch ffôn coll.
Fodd bynnag, ni allwn fynd allan llawer yn y dyfodol agos a gwaharddir cynulliadau. Felly sut all Nextdoor eich helpu?
Gellir edrych ar Nextdoor fel cymuned ar-lein – eich cymuned leol yn y bôn, wedi mynd yn ddigidol. Er ein bod yn cael trafferth gweld ein ffrindiau a'n teulu wyneb yn wyneb, gall Nextdoor fod yn fynediad hawdd i normalrwydd – gan roi mynediad i chi nid yn unig i'r rhai sy'n agos atoch chi, ond hyd yn oed y rhai rydych chi'n eu pasio ar y stryd ac yn dweud “Helo” wrthyn nhw. Isod mae enghraifft ddiweddar o sut y gall y platfform hwn helpu i ddod â ni at ein gilydd fel cymuned:

Am 8pm bob nos, mae pobl y DU yn mynd allan ar eu strydoedd i glapio, bloeddio a chwarae cerddoriaeth i ddathlu ein gwasanaethau GIG a gwasanaethau brys gwych sy'n brwydro yn erbyn y Coronafeirws sy'n prysur ledaenu. Defnyddiwyd Nextdoor i drefnu’r ‘digwyddiad’ hwn ac i ledaenu’r gair. Er enghraifft, roedd Ruby ein Swyddog Cyfathrebu Digidol, y tu allan i'w drws ffrynt pan ddechreuodd y clapio ar 26 Mawrth a bu iddi ymuno wedi iddi sylweddoli beth oedd pwrpas hynny, ond nid oedd hi'n gwybod cyn hynny. Petai wedi mynd ar Nextdoor, byddai wedi darganfod!
Rydym yn deall nad yw addasu i'r byd digidol yn hawdd i bawb, ond mae Nextdoor mor syml i’w ddefnyddio. Nid yw'n defnyddio dyluniad gwefan ffansi sy'n anodd ei lywio. Mae'n gwestiynau amlddewis syml neu gwestiynau ateb byr. Perffaith.

Yma yn TPAS Cymru, rydym wedi cwrdd â llawer o landlordiaid sy'n defnyddio Nextdoor i gadw mewn cysylltiad â'u tenantiaid, gan ddefnyddio fersiwn ap ffôn. Mae hyn yn galluogi mynediad haws i'r wefan a'i gwneud hi'n rhwydd i allu sgwrsio â thenantiaid ledled y byd.
Yn ychwanegol, disgleirdeb Nextdoor, a'i bwynt gwerthu unigryw, yw ei fod yn gweithio ar eich lleoliad penodol yn unig, gan roi mynediad i gymuned eich lleoliad chi. Felly, mae eich porthiant newyddion yn symlach, ac nid wedi ei lenwi a lluniau o ginio rhost eich ffrindiau!
Ar yr adeg hon mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd sut bynnag y gallwn. Mae'r byd digidol yn rhoi mynediad inni nid yn unig i ffrindiau agos, ond i gyfran fawr o'n cymuned leol.
Cofleidiwch y byd digidol. Rhowch gynnig ar Nextdoor a chadwch yn ddiogel!