Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae TPAS Cymru wedi ymuno â Thai Pawb i ddarganfod mwy am ddarparu lloriau mewn cartrefi cymdeithasol sydd newydd eu gosod. Rydym yn ddiolchgar i aelodau a thenantiaid am ymateb i'r arolwg a'n helpu yn ein hymchwil

Lloriau: Darparu lloriau priodol mewn tai cymdeithasol  

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae TPAS Cymru wedi ymuno â Thai Pawb i ddarganfod mwy am ddarparu lloriau mewn cartrefi cymdeithasol sydd newydd eu gosod. Rydym yn ddiolchgar i aelodau a thenantiaid am ymateb i'r arolwg a'n helpu yn ein hymchwil.  
 
Wrth gyhoeddi ein cyd-adroddiad - 'LLORIAU' - rydym wedi darganfod bod diffyg lloriau neu garped wedi effeithio ar iechyd a lles tenantiaid. Rhestrodd y rhai a holwyd faterion fel diffyg cynhesrwydd, diogelwch a sŵn yn eu cartrefi, materion iechyd, gan gynnwys anawsterau anadlu, ac iselder. Amlygodd ymatebion tenantiaid â phlant faterion diogelwch a chynnydd mewn unigedd ac unigrwydd wrth fethu â gwahodd ffrindiau i ymweld.

Fodd bynnag, amlygodd yr adroddiad arfer da hefyd, lle gadawodd rhai landlordiaid cymdeithasol loriau presennol yn eu lle, lle bo hynny'n bosibl a thrwy gais gan denant newydd. Ar ben hynny, roedd rhai landlordiaid yn gweithio gyda sefydliadau i helpu tenantiaid i sicrhau opsiynau lloriau diogel a fforddiadwy.  
Mae'r adroddiad yn cynnwys 10 argymhelliad i Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol eu hystyried.  

Gellir gweld y grynodeb weithredol yma

Gellir gweld yr adroddiad llawn yma.   

Rydym yn hwyluso cyfarfod ar 26 Tachwedd am 10am ar gyfer staff sy'n edrych i weithredu'r canlyniadau hyn. Os hoffech chi fod yn bresennol, cysylltwch â ni enquiries@tpas.cymru ac fe wnawn anfon gwahoddiad atoch. 

Byddwn hefyd yn trafod y canlyniadau yn ein Rhwydwaith Tenantiaid nesaf ar 12 Tachwedd. Cofrestrwch yma