Nid yw llawer o ddarparwyr tai cymdeithasol yn darparu lloriau newydd i denantiaid newydd, oherwydd cost ariannol lloriau newydd mae llawer o denantiaid yn y pen draw yn byw heb loriau priodol am amser hir.

LLORIAU – Darparu lloriau priodol mewn tai cymdeithasol yng Nghymru

Nid yw llawer o ddarparwyr tai cymdeithasol yn darparu lloriau newydd ar gyfer tenantiaid newydd, oherwydd cost ariannol lloriau newydd mae llawer o denantiaid yn y pen draw yn byw heb loriau priodol am amser hir yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd a’u lles. Mae'r prosiect hwn mewn partneriaeth â Tai Pawb yn ceisio mynd i'r afael â hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dechreuodd y prosiect FLORED drwy arolygu Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol ar eu polisïau a’u harferion o ran lloriau ac arolwg o denantiaid am eu profiadau o loriau. Nid oedd gan fwyafrif y tenantiaid a ymatebodd i'r arolwg garpedi na lloriau addas ym mhob rhan o'u cartref. Yn y mwyafrif llethol o achosion roedd hyn oherwydd y gost o brynu lloriau addas yn gysylltiedig ag incwm isel/diffyg arian. Er bod dros draean o denantiaid wedi dweud bod lloriau wedi bod yn yr eiddo pan edrychon nhw ar eu darpar gartref, yn y rhan fwyaf o achosion roedd hwn wedi'i dynnu cyn i neb fyw ynddo, er iddynt ofyn, mewn llawer o achosion, iddo gael ei adael.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon datblygwyd set o argymhellion a oedd yn cynnwys;

  • Darparwyr tai cymdeithasol i roi grantiau i denantiaid brynu eu lloriau
  • Darparu'r opsiwn i denantiaid gadw lloriau presennol
  • Adolygu Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) i gynnwys darparu lloriau priodol

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn a’r crynodeb gweithredol gan gynnwys canlyniadau’r arolwg ac argymhellion llawn yma:

LLORIAU: CRYNODEB WEITHREDOL

LLORIAU: ADRODDIAD LLAWN