Llywodraeth Cymru yn lansio'r fenter ddiweddaraf (ar gyfer rhentwyr preifat) i gadw pobl yn eu Cartrefi
Efallai i chi gofio nôl ym mis Awst bod y Gweinidog Tai, Julie James AC, wedi cyhoeddi datganiad yn cyhoeddi pecyn o gefnogaeth ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd ond hefyd lansiad “Benthyciad Arbed Tenantiaeth”. Heddiw, aeth hyn fyw i denantiaid.
Felly beth mae hyn yn ei olygu?
Mae'r Cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth ar gyfer rhentwyr preifat. Mae'n gynllun benthyciad i ddarparu modd fforddiadwy i dalu ôl-ddyledion rhent, neu rent misoedd yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu dogfen Cwestiynau Cyffredin y gallwch ddod o hyd iddi yma.
Y pethau sylfaenol sydd angen i chi wybod yw:
-
Rhaid i chi fod yn denant yn y sector rhentu preifat yng Nghymru (nid tai cymdeithasol)
-
Rydych mewn ôl-ddyledion rhent o 1 Mawrth 2020 oherwydd pandemig Coronafirws
-
Nid ydych yn derbyn budd-dal tai na thaliadau cost tai trwy Gredyd Cynhwysol
-
Nid oeddech mewn ôl-ddyledion rhent sylweddol, e.e. 8 wythnos neu fwy o ôl-ddyledion rhent, cyn 1 Mawrth 2020
-
Nid ydych wedi gwneud cais a derbyn benthyciad trwy ddarparwr benthyciad arall trwy Fenthyciad Arbed Tenantiaeth ar gyfer yr ôl-ddyledion rhent dan sylw
-
Telir y benthyciad yn uniongyrchol i'ch landlord neu asiant a fydd yn dileu'r bygythiad o gael eich troi allan.
Gweinyddir y cynllun gan Undebau Credyd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a phan gyflwynwch ymholiad fe'ch cyfeirir at un o'r 7 Undeb Credyd - yr un agosaf atoch chi.
Mae hwn yn gam cadarnhaol o ran rhentu breifat. I denantiaid, mae'n creu seibiant o fod ofn cael eu troi allan. Mae'r newyddion hefyd wedi cael derbyniad da gan Landlordiaid ac Asiantau yr ydym wedi siarad â nhw. Maent yn gadarnhaol ynghylch y cynllun a'r sicrwydd ariannol y gallai ei ddarparu iddynt. Fe wnaethant gadarnhau bod prosesau tebyg ar gyfer pryd y mae'r awdurdodau lleol yn talu rhent i rai tenantiaid ar hyn o bryd yn syml iawn, yn amserol ac wedi'u gweithredu'n dda.
Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan Undebau Credyd Cymru yma: https://creditunionsofwales.co.uk/cy/tsl/ Mae’n cynnwys ffurflen ymholi a manylion cyswllt ar gyfer pob Undeb Credyd sy’n rhan o’r cynllun, ac mae gan bob un ohonynt daflen y gellir ei hargraffu ar eu gwefannau.
Yn olaf: oeddech chi'n gwybod bod llinell gymorth newydd am ddim i rentwyr preifat sy'n poeni am ôl-ddyledion rhent? 0300 330 2177.
Naill ai rhowch alwad iddynt os oes gennych bryderon, neu dysgwch fwy trwy wylio'r fideo esboniwr hwn lle mae Bethan Hunt o Gyngor ar Bopeth Cymru yn siarad â TPAS Cymru am y gwasanaeth a phryderon tenantiaid cyfredol. https://youtu.be/p76iRbkhS4k
Gadewch i ni wybod beth ydych yn ei feddwl trwy ebostio [email protected]