Mae ein Hadroddiad Pwls Tenantiaid 2025 sy'n rhannu Llais y Tenant ar Rent a Fforddiadwyedd bellach ar gael!
Mae ein 4ydd Pwls Tenantiaid blynyddol ar rent, taliadau gwasanaeth a fforddiadwyedd yn rhannu llais tenantiaid o bob cwr o Gymru ynglŷn â'r hyn sydd bwysicaf i denantiaid ar hyn o bryd. Mae'n canolbwyntio ar yr angen am fwy o dryloywder, cyfathrebu a'r hyn sydd angen ei wneud i amddiffyn tenantiaid a'r sector tai ehangach.
Clywodd TPAS Cymru leisiau tenantiaid tai cymdeithasol o bob cwr o Gymru, ac rydym bellach yn falch o allu cyhoeddi ein Hadroddiad gyda'r cyhoedd yn rhannu ein mewnwelediadau.
Mae'r canlyniadau'n glir - mae fforddiadwyedd ar bwynt argyfwng i gynifer o denantiaid yng Nghymru ac mae angen i ni weithredu. Mae'r Adroddiad a'r Crynodeb Gweithredol isod yn rhoi cipolwg pwysig ar yr hyn y mae tenantiaid yn ei brofi a'r hyn sydd ei angen arnynt i gael tenantiaethau cynaliadwy..
Enw'r Adroddiad: Rhent, Taliadau Gwasanaeth a Fforddiadwyedd – Yr angen am fwy o dryloywder
Dyma'r ddolen i'r adroddiad llawn
Dyma'r ddolen i'r Grynodeb Gweithredol
I weld y datganiad i'r wasg ar y Pwls Tenantiaid yma, cliciwch yma
Awduron: Eleanor Roberts a David Wilton
Llongyfarchiadau i enillwyr y raffl gwobrau ar gyfer yr arolwg Pwlse hwn. Yr enillwyr yw Andy o Sir Benfro ac Eleri o Wynedd.
Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a neilltuodd eu hamser i gwblhau'r arolygon ac i'n cydweithwyr tai am eu cefnogaeth. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr.
Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan:

Pwls Tenantiaid yw'r panel swyddogol ledled Cymru ar gyfer tenantiaid sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe'i sefydlwyd yn 2017 gan TPAS Cymru (o dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru).
Fe'i cynhelir bob chwarter ar faterion amserol i helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae'n cwmpasu tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Awdurdod Lleol) ynghyd â rhentwyr preifat a'r rhai mewn tai â chymorth.