Gwrando ar denantiaid yng Nghymru: pryderon allweddol presennol tenantiaid fel y clywyd gan TPAS Cymru

Mewnwelediad y Tenant – Medi 2022

Gwrando ar denantiaid yng Nghymru: pryderon allweddol presennol tenantiaid fel y clywyd gan TPAS Cymru.

Fel y sefydliad ymgysylltu â thenantiaid cenedlaethol yng Nghymru, rydym yn gwrando ar denantiaid tai cymdeithasol ledled Cymru am yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy a’r hyn sy’n eu poeni o ran eu cartrefi a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Rydym wedi parhau i wrando ar denantiaid drwy 2022 ac rydym bellach yn falch o gyhoeddi ein hail adroddiad mewnwelediad y tenant, yn manylu ar y mewnwelediad pwysig a glywsom gan denantiaid. Gobeithiwn y bydd y mewnwelediad hwn yn helpu i siapio a dylanwadu ar benderfyniadau i sicrhau bod tai yng Nghymru yn diwallu anghenion, blaenoriaethau ac yn adlewyrchu lleisiau tenantiaid.

From our tenant insight, we have identified five key themes which we explore in our cyhoeddiad  Mewnwelediad y Tenant mis Medi yma.  Archwilir barn a safbwyntiau tenantiaid trwy’r adroddiad ciplun hwn, sy’n archwilio’r prif feysydd sy’n peri pryder i denantiaid ar hyn o bryd.

Mae’r gwrando a’r dysgu hwn yn rhan o’n sgyrsiau parhaus gyda thenantiaid ledled Cymru, a byddwn yn parhau i wrando ar eu barn a’i rhannu.