Croeso i TPAS Cymru
Mae 
TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) wedi cefnogi tenantiaid a landlordiaid tai cymdeithasol ledled Cymru i ddatblygu cyfranogiad effeithiol yn y maes tai ers dros 30 mlynedd.   White Line Rydym yn gweithio ar yr agenda ehangach o ran ymgysylltu â dinasyddion, hybu arferion da mewn gwasanaethau cyhoeddus, drwy hyfforddiant, cefnogaeth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Mae gennym wybodaeth helaeth am dai cymdeithasol gyda ffocws ar faterion o safbwynt tenantiaid, sydd er budd y tenantiaid.

Ein rôl hanfodol ledled Cymru yw bod yn ganolbwynt adnoddau gwybodaeth ac arbenigedd o ran cynghori a hyrwyddo arfer da ym maes cyfranogiad tenantiaid, er budd tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol fel ei gilydd.  
Mae gennym berthynas gryf ac agored gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd Rheoleiddio Cymru. Beth am ddysgu mwy am sut y gall tenantiaid ddylanwadu ar y sector tai yng Nghymru a pherthynas TPAS.  Mae ein gwaith yn eang ac yn cynnwys; cyflwyno hyfforddiant, cynnal adolygiadau o gyfranogiad tenantiaid, sefydlu a chefnogi craffu, cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, rheoli prosiectau, trefnu digwyddiadau, lledaenu gwybodaeth ac arferion da, a llawer mwy.
TPAS Membership

Yr Agenda

Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Yr Agenda’ sy’n rhoi trosolwg o bwnc i grwpiau tenantiaid ac yn awgrymu cwestiynau y byddech efallai am eu gofyn wrth ymgysylltu â’ch landlord (cliciwch yma am ragor o wybodaeth)

Mae TPAS Cymru, trwy roi llais i denantiaid wrth reoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru, yn casglu barn a phryderon tenantiaid ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. 

 

 

Beth sydd ar y gweill

14 April 2026

Cyflwyniad i Ddatblygu Cymunedol yn Seiliedig ar Asedau (ABCD)

Training – online

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cael ei gyflwyno gan Gydymaith TPAS Cymru, Mark John Williams, sydd wedi gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol ers canol yr 80au.

Read More Button

15 April 2026

Sut i ysgrifennu a chyflwyno Enwebiad Gwobrau TPAS Cymru (Ailadroddiad)

Webinar

Ydych chi'n ystyried cyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobrau TPAS Cymru eleni ond ddim yn siŵr beth yw'r ffordd orau o'i wneud neu ydych chi eisiau gwybod mwy?

Read More Button