Tristwch mawr yw hysbysu sector tai Cymru am farwolaeth ein cyn gydweithiwr annwyl Gail Lewis.

Newyddion trist am gyn gydweithiwr Gail Lewis

Tristwch mawr yw hysbysu sector tai Cymru am farwolaeth ein cyn gydweithiwr annwyl Gail Lewis.
 
Bu Gail yn gweithio i TPAS Cymru am dros 21 mlynedd tan 2017 lle’r oedd yn ffrind a chydweithiwr uchel ei pharch, yn adnabyddus am ei charedigrwydd a’i pharodrwydd i helpu eraill.
 
Mae’n deimladwy bod y newyddion yma yn dod ar drothwy ein Cynhadledd flynyddol gan y byddai Gail wedi bod yn un o’r wynebau cyntaf i’ch cyfarch mewn cynhadledd TPAS Cymru ers dau ddegawd.
 
Roedd hi'n 69 mlwydd oed a mis i ffwrdd o dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.
 
Mae TPAS Cymru yn cydymdeimlo’n ddwys â merch Gail, Kylie, a’i holl deulu a’i hanwyliaid..