Ar 15 Ragfyr 2020, fe wnaethom ni yma yn TPAS Cymru gynnal ein digwyddiad gwobrau rhithiol cyntaf trwy Zoom

Pethau da o 2020

Ar 15 Ragfyr 2020, fe wnaethom ni yma yn TPAS Cymru gynnal ein digwyddiad gwobrau rhithiol cyntaf trwy Zoom.  

Oherwydd y pandemig Cofid-19 bu’n rhaid i ni ganslo ein noson Gwobrau blynyddol, a gynhelir fel arfer yng Nghaerdydd, ond nid oeddem eisiau i waith caled ein haelodau; landlordiaid, tenantiaid a chymunedau beidio cael eu cydnabod yn ystod y cyfnod arbennig o anodd yma. Felly, fe benderfynon ni gynnal ein gwobrau’n ddigidol a chynnal seremoni wobrwyo rithiol gyntaf erioed!

Ar gyfer ein digwyddiad fe grëwyd pedwar categori Gwobrau Cydnabyddiaeth:

  • Cynnal Cyfranogiad Tenantiaid
  • Cefnogi Llesiant
  • Cyfathrebu yn ystod Argyfwng
  • Cymunedau’n Cefnogi Cymunedau

 

Cawsom ein llethu gyda'r holl gyflwyniadau gwych a gawsom ac roeddem eisiau rhannu'r gwaith gwych gyda chi i gyd. Rydym wedi llunio yr adroddiad isod i chi ei lawr lwytho:

Yr Enillwyr; Rhannu Eu Llwyddiannau Allweddol (PDF)

Mae'n rhoi mwy o wybodaeth am bob un o’r 4 categori gwobr, yr enwebeion gwych a 3 Uchaf y beirniad ym mhob categori. Rydym hefyd wedi ychwanegu eu manylion cyswllt os hoffai unrhyw un gael mwy o wybodaeth am eu prosiectau

Hoffem ddiolch Dot Davies a helpodd yn garedig â dyletswyddau hwyluso a hefyd Llywodraeth Cymru i ariannu'r digwyddiad yn rhannol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Pobl a roddodd £250 i bob enwebai o'r categori Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau ar gyfer eu prosiect neu achos / elusen a ddewiswyd ganddynt. Yn ogystal â'r anrheg hael hon, fe wnaethant noddi'r wobr Unigol hefyd. Diolch Pobl! 😊

Yn olaf, hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a enwebwyd ym mhob categori. Roedd 2020 yn flwyddyn anodd i bob un ohonom, fodd bynnag, eich straeon a phobl fel chi sy'n rhoi rheswm inni ddal ati i wenu, hyd yn oed yn ystod y dyddiau anodd. 

Diolch unwaith eto, a chan obeithio am flwyddyn well eleni!