Credwn y dylid dathlu pobl ifanc. Nhw yw'r genhedlaeth sydd â'r gallu i newid y byd rydyn ni'n byw ynddo.

Pobl Ifanc yn Creu Newidiadau

Credwn y dylid dathlu pobl ifanc. Nhw yw'r genhedlaeth sydd â'r gallu i newid y byd rydyn ni'n byw ynddo ac sydd â'r siawns fwyaf o greu newid, ym mhob agwedd ar y byd rydyn ni'n byw ynddo.

Eleni, gall pobl ifanc o Gymru, am y tro cyntaf, bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd. Credir y gallai hyn newid cyfeiriad dyfodol gwleidyddol Cymru, gyda barn fodern 70,000 o bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yn cael ei hychwanegu at bleidleisiau amrywiol plaid Senedd Cymru.

Yng ngoleuni'r ffaith bod pobl ifanc yn cael llais yng ngwleidyddiaeth Cymru, rydyn ni am ddathlu pobl ifanc yn eu harddegau ledled y byd sydd wedi gwneud pethau anhygoel. Yn y byd modern sydd ohoni, maen nhw'n dod yn gatalydd newid.

Fel cenedl, rydym yn gwybod bod pobl ifanc wedi cyflawni llwyddiant yn ifanc yn y gorffennol, fel Mark Zuckerberg yn creu Facebook yn 19 mlwydd oed, Steve Jobs yn creu Apple yn 21, neu hyd yn oed Justin Bieber a oedd â gwerth net o dros $160 miliwn erbyn iddo fod yn 20 mlwydd oed. Mor anhygoel ag y mae'r cyflawniadau hyn, rydym am daflu goleuni ar y rhai sy'n creu newid i'w bywydau eu hunain neu eraill.

Mae Kelvin Doe, o Sierra Leone, yn crynhoi'r newid y gall pobl ifanc ei greu pan fydd ganddyn nhw'r dyfalbarhad cywir. Cenhadaeth Kevin oedd datrys ei faterion technoleg leol, a ddechreuodd pan oedd ond yn 11 mlwydd oed. Yn dilyn hyn, llwyddodd Kevin yn ei genhadaeth i bweru ei gymdogaeth gan ddefnyddio batris a wnaeth allan o asid, soda a metel, i gyd gyda'i gilydd mewn cwpan tun. Yna defnyddiodd Kevin ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a ddefnyddiodd gyda generadur (a wnaeth hefyd o ddeunyddiau wedi'u hailddefnyddio) i greu gorsaf radio yn ei gymuned. Mae Kelvin wedi dod yn eicon i bobl ifanc eraill yn Sierra Leone wrth iddo barhau i greu newid i'w ardal leol.

Creodd Hannah Herbst, sy'n ond yn 17 mlwydd oed, BEACON (Bringing Electricity Access to Countries through Ocean Energy.) Mae cynnyrch Hannah, BEACON, yn dal egni o donnau'r cefnfor ac mae ganddo'r potensial i ddarparu ffynhonnell bŵer i'r byd. Ei chenhadaeth gyffredinol yw darparu BEACON i wledydd ledled y byd i bweru eu hoffer meddygol a phuro dŵr y wlad, gan ei gwneud yn amgylchedd mwy diogel i bobl fyw ynddo.

Daeth Nicholas Lowinger yn grewr Gotta Have Sole, ar ôl cwrdd â brawd a chwaer a oedd yn ddigartrefedd. Ni allai'r ddau fynd i'r ysgol ar yr un dyddiau, ond yn eu tro, gan fod yn rhaid iddynt rannu un pâr o esgidiau rhyngddynt. Rhoddodd Nicholas bâr o'i esgidiau ei hun i'r bachgen, a ddechreuodd yn ei dro sefydliad Gotta Have Sole, sydd wedi llwyddo i roi dros 90,000 pâr o esgidiau i blant digartref. Mae stori Nicholas yn dangos sut y gall un weithred fach o garedigrwydd droi’n gwmni sy’n helpu miloedd o bobl ledled y byd. Mae'r bobl ifanc yn yr erthygl hon wir yn dangos sut y gall rhoi eu syniad ar waith greu lefel anhygoel o newid yn eu cymunedau.

Roedd Cassandra Lin, yn 11 mlwydd oed pan ddarganfu y gallai droi olew coginio arferol yn fiodanwydd. Siaradodd â busnesau lleol i ofyn a fyddent yn rhoi gwastraff olew coginio iddi arbrofi ag ef. Bu’n ymarfer hyn yn ei hardaloedd lleol ac mae bellach wedi ehangu i greu Prosiect TGIF (turn gas into fuel), sydd bellach wedi ennill gwobrau amgylcheddol lluosog fel cydnabyddiaeth o’i gwaith sy’n newid bywyd.

Dim ond wyth oed oedd Maya Penn pan lansiodd ei label ffasiwn ecogyfeillgar ei hun o’r enw Maya’s Ideas. Mae hi wedi mynd ymlaen i ddarparu TED Talks, creu swyddi i eraill yn ei thŷ ffasiwn a chreu cwmni dielw o’r enw Maya’s Ideas 4 The Planet. Person ifanc gwirioneddol ryfeddol, yn creu cyfleoedd i eraill wrth ystyried yr amgylchedd a'r byd rydyn ni'n byw ynddo.

Mae'r unigolion ifanc hyn yn crynhoi natur weithgar cenhedlaeth iau heddiw, maen nhw'n profi i ni i gyd ein bod ni'n gallu creu newid yn ein hardaloedd lleol a gwella'r byd rydyn ni'n byw ynddo. Gall unrhyw berson ifanc fod fel pob un o'r crewyr hyn, os ydynt yn dyfalbarhau a rhoi eu syniadau ar waith ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd modern.