Mae cyfle cyffrous wedi codi i denantiaid preifat ddweud eich dweud ar welliannau i'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru)
Hoffem eich gwahodd i ddigwyddiad i drafod deddfau newydd a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn rhentu cartrefi.
Digwyddiad De Cymru
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10ed Mis Mawrth
Amser: 12:00 Hanner dydd
Lleoliad: TPAS Cymru, Adeilad Unite, Cathedral Road, Caerdydd, CF11 9SD
Digwyddiad Gogledd Cymru
Dyddiad: Dydd Mercher, 11ed Mis Mawrth
Amser: 12:00 Hanner dydd
Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ
Yn ddiweddar, cysylltodd Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol â TPAS Cymru gyda gwahoddiad i denantiaid SRhP i gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch y Ddeddf Rhentu Cartrefi, a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn rhentu cartrefi yng Nghymru yn llwyr. Dyma gyfle prin i denantiaid gwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod y deddfau newydd, ac i roi eich barn ynghylch a fyddant yn gwneud rhentu yn fwy diogel i denantiaid.
Rydym yn cynnal dau ddigwyddiad - Un yng Nghaerdydd yn y De, ac un ym Mae Colwyn yn y Gogledd. Bydd y digwyddiad yn cael ei hwyluso gan staff Cynulliad Cymru, ac mae dogfen ynghlwm i'r e-bost hwn yn nodi'r hyn a fydd yn cael ei drafod yn ystod y sesiwn. Mae Cynulliad Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydden nhw'n gallu talu costau teithio i bawb sy'n mynychu.
Mae lleoedd yn brin, felly awgrymir i chi gofrestru eich diddordeb cyn gynted ag y bo modd trwy ddefnyddio’r ffurflen gofrestru yn y ddolen isod. Ar ôl i chi gofrestru byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich lle.
Cliciwch yma i gofrestru