Pwls Tenantiaid Cymru Gyfan: 3ydd Arolwg Blynyddol ar Sero Net ac Effeithlonrwydd Ynni

Mae ein Pwls Tenantiaid diweddaraf yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni ac agweddau at Sero Net. Dyma’r trydydd tro i ni gynnal y math hwn o arolwg. Roeddem yn chwilfrydig ynghylch newid ymddygiad o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, a sut mae tenantiaid yn edrych ar Sero Net a thai carbon isel.
Cawsom y gyfradd ymateb gyflymaf hyd yma ar gyfer ein Pwls Tenantiaid Sero Net gyda dros 700 o denantiaid ar draws tai cymdeithasol a thenantiaid rhentu preifat yn rhannu eu llais. Roeddem yn falch iawn o gael demograffeg eang o denantiaid, ac rydym yn gobeithio parhau i gyrraedd tenantiaid ifanc.
Credwn fod y canfyddiadau a'r argymhellion yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae tenantiaid yn eu profi a sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartrefi a Sero Net.
Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan ar gyfer tenantiaid sy’n rhoi eu barn ar y pethau sy’n bwysig iddynt ar hyn o bryd. Cafodd ei greu bum mlynedd yn ôl gan TPAS Cymru (dan raglen waith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n cael ei redeg yn chwarterol ar faterion cyfoes ac mae’n helpu i lunio polisi tai yng Nghymru. Mae Pwls Tenantiaid yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (cymdeithasau tai a thai cyngor) yn ogystal â rhentwyr preifat gan gynnwys myfyrwyr a’r rhai mewn tai â chymorth.
Os ydych yn denant, pam na wnewch chi ymuno â'n cronfa ddata Pwls Tenantiaid i gael dweud eich dweud?
Enw'r adroddiad: 3ydd Adroddiad Blynyddol TPAS Cymru ar Sero Net ac Effeithlonrwydd Ynni
Gweler yr adroddiad llawn yma
Awdurod Arweiniol: Hannah Richardson ac Elizabeth Taylor
Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich ymroddiad i leisio eich barn.
Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan .png)
Ymholiadau'r cyfryngau: Mae gennym ddeunydd ar gyfer y cyfryngau ynghyd â llefarwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cysylltwch â [email protected]
Tryloywder cystadleuaeth y raffl
I ddiolch i chi am gwblhau'r arolwg, gall tenantiaid ddewis ymuno â raffl. Cesglir y data hwn ar wahân i'r arolwg dienw.
Yr enillwyr ar gyfer y Pwls hwn yw:
-
Eleri – tenant Cartrefi Conwy
-
Gwen – rentwr preifat o Rhondda Cynon Taff
-
Royston – Tenant Cyngor Powys
Derbyniodd pob un focs o gynnyrch Cymreig ffres gan https://www.daffodilfoods.co.uk/
Maent wedi cael eu hysbysu a'u gwobrau wedi'u hanfon.