Mae TPAS Cymru wastad yn awyddus i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yng Nghymru yn cael eu clywed. Mae gan TPAS Cymru berthynas hirsefydlog gyda thenantiaid o bob rhan o Gymru ac mae’n cael ei weld fel Llais tenantiaid landlordiaid cymdeithasol.

Rhwydweithiau Tenantiaid TPAS Cymru 

Mae TPAS Cymru wastad yn awyddus i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yng Nghymru yn cael eu clywed. Mae gan TPAS Cymru berthynas hirsefydlog gyda thenantiaid o bob rhan o Gymru ac mae’n cael ei weld fel Llais tenantiaid landlordiaid cymdeithasol.  

Bob mis mae TPAS Cymru yn trefnu ac yn hwyluso Rhwydwaith anffurfiol, ar-lein sy'n caniatáu i denantiaid o bob rhan o Gymru ymuno i:  

  • clywed gan siaradwyr gwadd;
  • rhannu arfer da;
  • cymryd rhan yn ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru;
  • gofyn am gyngor/arweiniad am y gwaith y maent yn ei wneud; a
  • rhwydweithio gyda thenantiaid o'r un anian

Dyma ddetholiad o rai o’r pynciau y mae’r tenantiaid sy’n mynychu’r rhwydwaith wedi cymryd rhan yn 2023: 

  • Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru. Dywedodd Mike Corrigan Llywodraeth Cymru: “Diolch yn fawr unwaith eto am roi’r cyfle i ni ymgynghori â’r Rhwydweithiau Tenantiaid yn ystod 2023. Roeddent yn sesiynau diddorol gan roi llawer o fewnwelediadau a barn tenantiaid pwysig i ni eu hystyried wrth i ni ddatblygu’r cynigion a amlinellir yn y Papur Gwyn Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru.”
  • Yn ystod Rhwydwaith arall fe wnaethom ofyn rhai cwestiynau penodol i denantiaid ynghylch sut roedd eu rhenti wedi’u pennu ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-2024. Roedd y rhain yn cynnwys cwestiynau am:
    -  A ymgynghorwyd â nhw ynghylch lefel y Rhent?
    -  Pa wybodaeth a roddwyd iddynt am opsiynau cynyddu rhent a'r effaith bosibl ar y gwasanaeth yn sgil yr opsiynau hyn

Roedd yr adborth a roddwyd gan denantiaid yn achosi peth pryder i ni yn TPAS Cymru ac mae’r canfyddiadau wedi’u trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.  

  • Cwynion oedd y pwnc ar gyfer rhwydwaith mis Mai pan ofynnwyd i denantiaid am eu barn ar: sut mae eu landlord yn gweld cwynion yn gyffredinol; pam nad yw tenantiaid yn cwyno; a sut mae eu landlord yn ‘rhoi adborth’ ar newidiadau y mae’n eu gwneud o ganlyniad i gwynion.
  • Roedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn destun rhwydwaith mis Chwefror pan roddodd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru adborth ar yr ymgynghoriad ar y safonau arfaethedig a gynhaliwyd yn 202.2. 

Mae'r rhwydweithiau fel arfer yn para am 1.5 awr ac yn rhad ac am ddim. Rydym yn eu hysbysebu ar ein gwefan a thrwy e-bost i denantiaid sydd ar ein cronfa ddata Rhwydwaith Tenantiaid. Os hoffech i'ch enw gael ei ychwanegu at y gronfa ddata hon, rhowch wybod i mi  [email protected].  Nid ydym yn rhannu eich cyfeiriad e-bost ag unrhyw un arall!