Sbotolau ar: Leigh Caveney
Dros yr haf, mae TPAS Cymru wedi ail-lansio ein cyfres 'Sbotolau Ar' mewn fformat newydd. Yn y gyfres hon, rydym yn dathlu cydweithwyr tai gwych yr ydym wedi bod yn gweithio â nhw. Cadwch olwg wrth i ni daflu goleuni ar yr wynebau y tu ôl i’r gwaith caled a’r arferion gorau sy’n helpu ein cartrefi a’n cymunedau i barhau i ffynnu, ac sy’n cefnogi tenantiaid yng Nghymru.
Mae ein trydydd rhifyn yn y gyfres hon yn canolbwyntio ar Leigh Caveney, Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid RHA Cymru
1. Beth yw fy hoff beth am fy swydd?
Mae nifer o bethau rydw i'n eu caru am fy swydd: Mae amrywiaeth enfawr yn yr hyn rydw i'n ei wneud. Gallaf fod yn casglu bwyd i’n cymuned yn y bore, yn cefnogi tenant drwy gyfnod anodd erbyn amser cinio, ac yn cynnal ymgynghoriad ar agwedd o’n gwasanaethau
yn y prynhawn. Rwyf wrth fy modd nad oes dau ddiwrnod yr un peth.
Rwyf hefyd yn ffodus i weithio mewn tîm gwych, nid oes yr un ohonom yn gwneud yr un swydd ond rydym i gyd yn wirioneddol gefnogol i'n gilydd - yn fy mhrofiad i mae hynny'n brin.
2. Beth yw un peth y byddech yn ei newid am dai yng Nghymru?
Cydraddoldeb rhwng pob math o dai rhent – O ran safonau llety a’r rhent a godir. Mae landlordiaid yn gweithio'n galed iawn mewn amgylchiadau anodd i godi safonau i gyrraedd SATC.
Nid yw’n ymddangos bod y cynllun cyfatebol preifat Rhentu Doeth Cymru wedi gwneud llawer i godi safonau ond mae’n ymddangos ei fod wedi lleihau’r eiddo sydd ar gael ac wedi cynyddu prisiau.
3. Sut mae tai wedi newid ers i mi ddechrau gwneud fy rôl?
Dechreuais weithio ym maes Tai nôl yn 1992 felly mae llawer o bethau wedi newid yn y cyfnod hwnnw. Datganoli, cyflwyno Deddfwriaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, cefnogi pobl, SATC - ond yr un yw'r hanfodion o hyd. Mae'n ymwneud â pherthnasoedd.
4. Beth sy'n ffordd dda o sicrhau bod llais tenantiaid neu'r cyhoedd yn cael ei glywed?
-
Byddwn yn dweud hyn ond, rwy'n meddwl bod RHA yn gwneud gwaith da iawn. Mae gan ein Tîm Gweithredol a'n Bwrdd ymrwymiad gwirioneddol i wrando ar ein tenantiaid ac aelodau'r gymuned.
Mae llais y tenant yn rhan fyw o'r holl waith a wnawn ni waeth beth fo'r tîm neu'r lefel. Mae gennym hefyd lawer o denantiaid ymroddedig sydd wedi aros gyda ni ers amser maith - rydym yn eu hystyried yn rhan o'n teulu RHA ac rydym yn gweithio'n galed i gynnal ein perthynas â nhw.
5. Beth sy'n fy ysbrydoli i wneud yr hyn rwy'n ei wneud?
Unwaith eto, ystrydeb enfawr ond i raddau mae'n rhaid i chi fyw'r hyn rydych chi'n ei wneud. Rwy’n caru fy amser segur y tu allan i’r gwaith ac rwy’n ei gadw’n arbennig ond rwy’n aml yn meddwl pan fyddaf yn gweld neu’n darllen rhywbeth da y gallwn ei ddefnyddio yn y gwaith ac, yn aml rwy’n gwneud hynny.