Sut mae Cymdeithasau Tai wedi cael eu heffeithio gan Bandemig Coronafirws
Mae Tîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal arolygon parhad busnes o’r holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. (LCC).
Yn ogystal â darparu lefel o sicrwydd rheoliadol, mae'r arolwg yn parhau i ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i sut mae'r sector yn delio â'r heriau sylweddol a berir gan Covid-19 ac yn bwydo i ystyriaethau polisi..
Mae'r adroddiadau'n ymdrin ag ystod o themâu pwysig gan gynnwys:
-
Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch
-
Cynnal a Chadw
-
Staffio
-
Ôl-ddyledion Rhent
-
Cadernid Ariannol
Cynhyrchir crynodeb o ganfyddiadau'r arolwg misol. Dyma'r pedwerydd cyhoeddiad o wybodaeth a gasglwyd ym mis Rhagfyr 2020.
Mae'r data a ddefnyddir yn yr adroddiadau yn seiliedig ar wybodaeth reoli a ddarperir gan LCC ac mae wedi bod yn destun sicrwydd ansawdd cyfyngedig. Oni nodir yn wahanol, mae'r holl gymariaethau gydag arolwg mis Medi.
Am yr adroddiad diweddaraf, cliciwch yma: https://llyw.cymru/arolwg-parhad-busnes-landlordiaid-cymdeithasol-cofrestredig-rhagfyr-2020