Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer eu Safon Tai Ansawdd Cymru 2023, sef safon targed cyffredin ar gyfer cyflwr holl dai cymdeithasol Cymru. Mae'r safon eleni yn canolbwyntio ar SeroNet a sut y gall Cymru arwain y llwybr at Sero. Darllenwch yma sut yr ydym ni yn TPAS Cymru wedi ymateb, gan gynnwys dylanwad rhai tenantiaid ar negeseuon allweddol ac argymhellion i Lywodraeth Cymru.

TPAS Cymru a SATC 2: Ein Prif Ymatebion

Crëwyd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu safon targed cyffredin ar gyfer cyflwr pob cartref cymdeithasol presennol yng Nghymru.  Yn ddiweddar, rhyddhawyd set newydd o safonau i ddechrau yn 2023 ar gyfer ymgynghoriad. Mae’r Safon yn nodi’r safonau ar gyfer yr hyn y dylai pob cartref ei gael, i enwi ond ychydig: cyflwr da o ran atgyweirio, diogelwch a diogeled, inswleiddio priodol ac wedi eu rheoli’n dda. Mae'r Safon ddiweddaraf hon yn canolbwyntio'n helaeth ar SeroNet a sut y gall Cymru gyflawni allyriadau carbon SeroNet erbyn y flwyddyn 2050. Mae'n canolbwyntio ar linellau amser ar gyfer nodau SeroNet, gan gynnwys pynciau fel ymgysylltu â thenantiaid a chyflawniad SeroNet.

Agorodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar SATC 2023 ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol, landlordiaid, cyrff cynrychioliadol (fel TPAS Cymru), aelodau’r cyhoedd, ac arbenigwyr technegol i ymateb i’r safon arfaethedig a chynnig mewnwelediad a barn. Ymatebodd TPAS Cymru i ymgynghoriad SATC2, ac rydym am rannu ein hymatebion allweddol gyda chi er mwyn creu trafodaeth onest a thryloyw ynghylch beth yw ein barn am y safonau hyn. Mae ein hymateb yn seiliedig ar sesiynau ar-lein gyda thenantiaid a staff a oedd yn canolbwyntio ar SATC2, wythnos SeroNet  ac arolygon Pwls Tenantiaid ar Beth sy'n Bwysig yn eich cartref, Effeithlonrwydd Ynni a SeroNet. Mae tenantiaid wir wedi siapio ein hateb.

Dyma bethau allweddol i'w cymryd o'n hymateb dan arweiniad tenantiaid!

  1. Rydym yn croesawu'r ffaith bod fersiwn wedi'i diweddaru a mwy heriol o SATC, gan fod y SATC gwreiddiol wedi llwyddo i wella tai a theimlodd tenantiaid fod angen safonau cyffredin uwch newydd yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni yn ystod yr argyfwng costau byw yma.
  2. Roedd cefnogaeth i’r safonau newydd ar loriau, mesurau arbed dŵr ac adeiladu ar hanfodion ffenestri, ceginau, ac ati sydd wedi’u cynnwys yn y SATC hwn. Rydym yn falch iawn o weld hyn!
  3. Y prif gwestiwn sy'n weddill ar hyn o bryd yw sut y telir am SeroNet, ac a ellir ei wneud mewn 10 mlynedd? Mae’r niferoedd sy’n cael eu trafod ar gyfer talu am ôl-osod yn syfrdanol ac mae angen ffordd gyllido glir ymlaen – mae angen i randdeiliaid gan gynnwys tenantiaid drafod a phenderfynu ar hyn ar fyrder. Pwy sy'n mynd i dalu am SeroNet? Ai landlordiaid, y llywodraeth, neu a yw tenantiaid yn mynd i dalu amdano drwy godiadau rhent yn erbyn chwyddiant?
  4. Mae tenantiaid wedi datgan yn gryf eu bod yn teimlo eu bod yn foch cwta i SeroNet sy'n cael eu harbrofi arnynt. Mae hyn yn annerbyniol. Mae angen tegwch a chydraddoldeb ar draws yr holl dai. Pam y dylai boeler nwy tenantiaid tai cymdeithasol gael ei ddiffodd degawd cyn unrhyw un arall, neu gael eu cyfyngu ar lif cawod neu faint baddon pan nad yw’r un safonau’n berthnasol i denantiaid preifat neu berchnogion tai? Mae angen i safonau adeiladu fod yn berthnasol i bawb yn y frwydr bwysig yn erbyn newid hinsawdd.
  5. Mae ymgysylltu â thenantiaid yn allweddol yn y llwybr i Sero! Mae angen i ymgysylltu â thenantiaid ddigwydd ymhell cyn ac yn parhau ar ôl i waith gael ei wneud yng nghartref tenant. Mae yna newidiadau ffordd o fyw yn dod gyda SeroNet ac mae angen i landlordiaid fod yn dryloyw ynghylch beth yw'r newidiadau hynny a darparu cymorth drwy'r cyfnod pontio a thu hwnt.
  6. Mae angen i’r cymorth hwn gynnwys tenantiaid sy’n symud i eiddo gwag sydd â systemau SeroNet newydd (pympiau gwres, mesuryddion clyfar ac ati) nad ydyn nhw wedi arfer â nhw ac nad ydyn nhw’n gwybod sut i weithio? Pwy fydd yno i'w helpu drwy'r gromlin ddysgu?
  7. Mae gan Gymru gyfle gwych i greu swyddi medrus, hirdymor drwy ôl-osod SeroNet. Mae arnom angen gweithredu brys gan randdeiliaid addysgol a chaffael.
  8. Methiannau Derbyniol – mae angen mwy o graffu a thryloywder ar ‘fethiannau derbyniol’. 

Os hoffech ddarllen ein hymateb llawn gellir ei ddarllen ymaYmateb TPAS Cymru i SACT

If we are aware of any other organisations responses being made public, we will publish links to them here:

Os ydym yn ymwybodol bod ymatebion unrhyw sefydliadau eraill yn cael eu cyhoeddi, byddwn yn cyhoeddi dolenni iddynt yma:

 

Hannah Richardson @hannahtpascymru
Swydog Ymgysylltu SeroNet 
TPAS Cymru