TPAS Cymru – ‘Gwobrau Cydnabyddiaeth’ 2020
Cydnabod cyflawniadau a rhannu arfer da
Fel llawer o ddigwyddiadau mawr a gynlluniwyd ar gyfer eleni, nid oeddem yn gallu cynnal ein digwyddiad Gwobrau Cyfranogiad dathliadol blynyddol, gobeithiwn y bydd yn ôl y flwyddyn nesaf, yn fwy nag erioed! Yn y cyfamser, rydym eisiau cydnabod gwaith caled ein haelodau; landlordiaid, tenantiaid a chymunedau, wrth gwrdd â heriau argyfwng Covid-19 ac wrth gefnogi tenantiaid yn ystod yr amser anodd hwn.
I'r perwyl hwn, rydym wedi creu 4 categori ‘gwobr cydnabyddiaeth’ nid yn unig i gydnabod y gwaith a wnaed, ond hefyd fel y gallwn rannu’r arfer da ag eraill.
Beth yw’r categorïau?
Dyma’r 4 categori – gweler y meini prawf llawn ar gyfer pob un ohonynt
-
Cefnogi lles
-
Cynnal Cyfranogiad Tenantiaid yn ystod y cyfnod clo
-
Cyfathrebu yn ystod argyfwng
-
Cymunedau yn cefnogi cymunedau
Beth yw'r broses o enwebu?
Rydym yn gwybod bod pawb yn brysur ar yr adeg hon felly rydym wedi ceisio gwneud i'r broses enwebu mor syml â phosibl - gweler y canlawiau ar sut i gyflwyno enwebiad (dolen uchod) a chwblhewch a dychwelwch y ffurflen enwebu hon.
Cofiwch y cewch ofyn cymorth gan staff TPAS Cymru: gallwn eich cynghori ynglŷn â’r meini prawf; llenwi’r ffurflen enwebu; a pa wybodaeth gefnogol y gallwch ei gynnwys. Fodd bynnag, ni allwn eich cynorthwyo’n uniongyrchol wrth gwblhau eich enwebiad.