Newidiadau i bolisi ‘troi allan heb fai’

 

 

Y diweddaraf ar y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) - troi allan heb fai 

Fel y gŵyr llawer ohonoch, rydym wedi bod yn aros i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gael ei gweithredu ers, wel, 2016. Bu oedi oherwydd nifer o bethau, un oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder angen teimlo'n hyderus bod systemau'r llysoedd yn ddigon cadarn i dderbyn y newidiadau hyn, a'r llall yn ymwneud â newidiadau posibl i Adran 21 (yr hawl i gyflwyno rhybudd i denant heb reswm). Pan fydd tenantiaid yn cael rhybudd Adran 21, mae ganddyn nhw 2 fis i ddod o hyd i lety newydd ac addas.

Pan ddaeth Mark Drakeford AC yn Brif Weinidog yma yng Nghymru, cynigiodd y dylem ddileu Adran 21 yn union fel y gwnaethant yn yr Alban. Yn yr Alban, gwnaethant hyn trwy ddiwygio Adran 8 (rheswm dilys i geisio meddiant fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ôl-ddyledion rhent sylweddol). Fe wnaethant hefyd ddiwygio eu systemau llys fel bod ganddynt lys tai penodol gyda staff profiadol sy'n gyfarwydd â deddfwriaeth tai. Trwy ddiwygio'r system llysoedd ar yr un pryd â diddymu A.21 roeddent yn gallu cadw tenantiaid a landlordiaid yn hapus.

Felly, pan ddaeth Julie James AC yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, galwodd am dystiolaeth ar ymestyn y cyfnod hysbysu lleiaf ar gyfer troi allan heb fai. Anfonodd TPAS Cymru arolwg allan i denantiaid i ofyn eu barn a'u teimladau ynghylch ymestyn y ddau fis i chwe mis. Roedd tenantiaid, yn ôl y disgwyl, o blaid hyn. Teimlai tenantiaid y byddai cael 6 mis yn lliniaru'r straen sy'n gysylltiedig â symud tŷ a fyddai'n waeth i denantiaid ar incwm isel, gyda chyflyrau iechyd, plant, cyfrifoldebau gofalu a’r rhai sy’n byw mewn eiddo wedi'i addasu. Lluniodd ymatebion y tenantiaid ein hymateb ymgynghori sydd i'w weld yma.

Ddoe (11 Chwefror 2020), gwnaeth Julie James AC ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn a gyflwynodd Fil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Os rhoddir Cydsyniad Brenhinol, bydd hyn yn y bôn yn newid elfennau y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, cyn iddo gael ei roi ar waith. Mae'r Bil yn cynnig newidiadau y mae Julie yn teimlo y bydd yn gwella'r berthynas rhwng tenantiaid a landlordiaid. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys ymestyn cyfnod hysbysu o ddau fis i gyfnod hysbysu o chwe mis. Mae hefyd yn cyfyngu ar gyhoeddi hysbysiad nes bod y tenant wedi bod yn ei denantiaeth am chwe mis. Mae hyn yn rhoi sicrwydd deiliadaeth i denantiaid am 12 mis. Bydd y Bil hefyd yn cyfyngu ar gyhoeddi hysbysiad A.21 tan o leiaf chwe mis ar ôl cyhoeddi un o’r blaen er mwyn sicrhau nad oedd landlordiaid yn cyhoeddi hysbysiadau ‘rhag ofn’. Mae yna ragor o newidiadau a gallwch eu darllen yma ond rwy'n credu mai dyma'r pethau sylfaenol.

(Pwyntiau allweddol i'w cofio: Gelwir Adran 21 yn Adran 173 yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Hefyd, gelwir tenantiaid yn Ddeiliaid Contractau yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016)

Bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn digwydd o fewn tymor y cynulliad hwn. Felly erbyn Mai 2021. Y peth nesaf i edrych amdano yw'r contractau enghreifftiol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhannu gyda'r sector chwe mis cyn eu gweithredu.

Oherwydd y ffaith nad oes diwygiad i'r llysoedd, mae gwrthwynebiad sylweddol o amgylch y newidiadau hyn yng Nghymru, felly cadwch lygad allan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi yrru e-bost ataf [email protected]