Y Gymdeithas Di-Arian a Chyfleusterau Cymunedol
Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf rydym wedi gweld nifer o erthyglau yn y newyddion ynghylch arian parod fel modd i brynu, ac a p'un ai fydd yn goroesi’r deng mlynedd nesaf yn wyneb y “gymdeithas ddi-arian” gynyddol. Yn ôl yr Adolygiad Mynediad at Arian Parod, mae 8 miliwn o bobl yn y DU yn dibynnu ar arian parod i reoli eu cyllid, yn hytrach na defnyddio cardiau neu daliadau electronig eraill. Mae “digideiddio” cynyddol taliadau yn peryglu rhoi’r bobl hynny dan anfantais, yn enwedig pan fydd nifer o’n gofynion dyddiol fel treth a rhent ac archfarchnadoedd yn troi i “cerdyn yn unig”.
Mae hon yn broblem y gallem fod yn cerdded i mewn iddi yn ddiarwybod. Cefais fy synnu go iawn pan sylweddolais nad oeddwn yn gallu prynu rhywbeth mewn siop leol, ar ôl methu’r arwydd “cerdyn yn unig” yn y ffenestr. Gallai hyn ddod yn fwy o broblem wrth i archfarchnadoedd ddechrau treialu siopau "cerdyn yn unig".
Er y gallai hyn achosi anghyfleustra mewn ardaloedd trefol, pryder mwy dybryd, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, yw diflaniad banciau o'n strydoedd mawr. Mae adroddiad diweddar gan Which? wedi canfod bod 43% o fanciau yng Nghymru wedi cau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan adael rhai ardaloedd gyda dim ond un neu ddwy gangen i gynnal poblogaethau mawr. Yn etholaeth De Clwyd, sy'n cynnwys y Waun, Llangollen a Corwen, dim ond un banc sydd yno bellach, fel sydd yn etholaeth Orgmore.
Daw'r newyddion hyn ar adeg anodd, pan ymdrechir i arafu diboblogi cefn gwlad Cymru. Mae mynediad at wasanaethau arian parod a bancio yn hanfodol ar gyfer economi leol lewyrchus, ac ar gyfer sicrhau bod pawb yn gallu cael at gyfleusterau sydd eu hangen arnynt: gwasanaethau cyhoeddus, cyfleustodau, hamdden ac ati. Mae hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnal ein cymunedau, gan gynnwys y mwyafrif o gymunedau Cymraeg eu hiaith.
Gan fod tua hanner ein haelodaeth yn ardaloedd gwledig Cymru, efallai ei bod yn bryd i ni ddechrau gofyn beth fydd landlordiaid cymdeithasol yn ei wneud i sicrhau bod ein cymunedau gwledig yn parhau i allu cael gafael ar arian parod a chymryd rhan lawn ym mywyd ariannol eu hardal. Mae hyn yn cysylltu â'r agenda ehangach o gynhwysiant cymunedol a chefnogaeth tenantiaid.
Beth yw eich barn chi? Oes gennych chi fynediad at arian parod a / neu fanciau yn yr ardal rydych chi'n byw ynddi? Pa gamau yr hoffech i'ch landlord eu cymryd i sicrhau y gallwch chi chwarae rhan lawn yn eich cymuned?
Rhowch wybod i ni trwy gwblhau’r arolwg isod.
Create your own survey at doopoll.co