Mae 6 Awdurdod Lleol/cyngor yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed ar draws y sector rhentu preifat

Ydych chi'n denant sector preifat yng Ngogledd Cymru? Ymunwch â ni am ein Cynhadledd arloesol ar Gostau Byw.  

  • Ydych chi'n rhentu gan landlord preifat neu asiant gosod tai yng Ngogledd Cymru? 
  • A oes gennych ddiddordeb mewn sut y gallech arbed arian y gaeaf hwn? 
  • Hoffech chi gydweithio â'r rhai sy'n llunio polisïau a phenderfyniadau lleol i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed? 

Mae 6 Awdurdod Lleol/cyngor yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed ar draws y sector rhentu preifat. Mae'r prosiect hwn yn cael ei lansio mewn cynhadledd Costau Byw ar-lein ddydd Mercher 12 Hydref 2022 o 6:30pm-8pm. Er mwyn sicrhau bod y fforwm hwn yn agored i bob tenant ar draws Gogledd Cymru, bydd yn cael ei gynnal ar Zoom fel y gallwch fynychu waeth ble rydych chi'n byw! 

Yr awdurdodau lleol dan sylw yw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). 

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n agored i holl denantiaid rhentu preifat ar draws Gogledd Cymru drwy Zoom.  

Yn ystod y fforwm/digwyddiad byddwch yn gallu clywed gan y rhai sy'n gwybod am yr hinsawdd ariannol bresennol a thai a fydd yn gallu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion pwysig megis: yr argyfwng costau byw; awgrymiadau ar sut i arbed ynni a; lle gallwch gael cyngor ar gyllidebu/talu biliau ac ati. 

Bydd y mynychwyr hefyd ymhlith y cyntaf i wybod am fforwm newydd cyffrous sy’n cael ei gychwyn ar draws Gogledd Cymru ar gyfer tenantiaid y Sector Rhentu Preifat, a fydd yn sicrhau bod eich lleisiau’n cael eu clywed mewn penderfyniadau ar gyfer tenantiaid yn y dyfodol. Peidiwch â cholli'ch cyfle i fod yn un o'r rhai cyntaf i gael eich llais yn cael ei glywed fel rhan o hyn. 

Gallwch gofrestru i sicrhau eich lle am ddim yma - https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUscOigrzgoGdyjb6BXA6r2jndIETQ2wwu-

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch -  [email protected] 

Hysbysiad preifatrwydd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan TPAS Cymru mewn partneriaeth â 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad rydych yn rhoi caniatâd i TPAS Cymru anfon gwahoddiad Zoom atoch i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd.