Rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n bwysig i chi am eich cartref, ac a ddylai cymunedau gymryd mwy o ran ynglŷn â pha gartrefi sy’n cael eu hadeiladu a ble.

 

Ydych chi'n denant tai cymdeithasol? Ydych chi'n rhentu gan y Cyngor neu Gymdeithas Tai?

Rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n bwysig i chi am eich cartref, ac a ddylai cymunedau gymryd mwy o ran ynglŷn â pha gartrefi sy’n cael eu hadeiladu a ble.

Mae TPAS Cymru yn gweithio gyda Shelter Cymru a Tyfu Tai Cymru ar yr ymchwil pwysig hwn, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu argymhellion i Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai wrth ddatblygu cartrefi newydd.

Mae'r Pwls Tenantiaid hwn ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yn unig.

Mae eich barn yn cael effaith uniongyrchol ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym maes tai yn ei glywed, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud.

Bydd canfyddiadau’r arolwg hwn hefyd yn edrych ar awgrymiadau polisi posibl ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Bydd yn cymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, a gallwch gymryd rhan mewn raffl am ddim i ennill gwobrau bwyd blasus Cymreig.

Diolch ymlaen llaw am rannu eich barn a'ch llais gyda ni. Mae eich barn yn wirioneddol bwysig. 

Dweud eich dweud drwy gwblhau'r arolwg drwy glicio yma

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, anfonwch e-bost at eleanor@tpas.cymru

Ynglŷn â TPAS Cymru - Ers dros 30 mlynedd, rydym wedi gweithio gyda thenantiaid a staff ar draws Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai i wella llais tenantiaid a chefnogi ymgysylltiad tenantiaid effeithiol. Mae Pwls Tenantiaid yn arolwg ar-lein sy’n un o’r ffyrdd effeithiol i leisiau tenantiaid gael eu clywed. I gael rhagor o wybodaeth am Pwls Tenantiaid, ewch i'n gwefan TPAS Cymru.